Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Apêl am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad traffig y ffyrdd lle yr anafwyd rhai yn ddifrifol

Mae heddlu yn Llanelli yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad traffig y ffyrdd lle yr anafwyd tri o bobl yn ddifrifol.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Renault Twingo glas a lori sgip gwyn a glas am 12:38pm ar ddydd Llun 6 Chwefror ar ffordd ddi-ddosbarth gul rhwng Pinged a Mynydd Pen-bre. Yn lleol, gelwir yr ardal hon yn Heol y Mynydd.

“Cludwyd pedwar o bobl i’r ysbyty. Dioddefodd tri ohonynt anafiadau difrifol,” meddai’r Rhingyll Ian Price o’r Uned Plismona’r Ffyrdd. “Mae un o’r teithwyr a oedd yn y Twingo yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

“Rydym yn ymchwilio i achos y ddamwain, a dymunwn siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld y cerbydau a oedd yn gysylltiedig â’r ddamwain yn teithio ar ffyrdd cyfagos cyn y gwrthdrawiad hwn.”

“Os oes gennych wybodaeth, cysylltwch â’r heddlu ar 101.”