Page Content Starts Here
Apêl am wybodaeth ynghylch difrod i dacsi
Mer 01 Chwef 2012
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am dacsi a gafodd ei ddifrodi pan oedd wedi’i barcio yng nghyffiniau Dylan yn Llwynhendy.
Difrodwyd y paent ar y car rhywbryd rhwng dydd Mercher 25 a dydd Gwener 27 Ionawr.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth a all fod o gymorth, neu os ydynt wedi gweld y digwyddiad, gofynnir iddynt gysylltu â swyddogion yng Ngorsaf Heddlu Llwynhendy ar 101.


