Ar Dy Feic!
Mae grŵp o swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys ar fin cychwyn taith feiciau 400 milltir o hyd er mwyn codi arian at achos da.
Mae PC Mel Gaul a chydweithwyr o Heddlu Suffolk wedi trefnu digwyddiad ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Maent yn rhoi cyfle i bartneriaid a chydweithwyr gyfarfod yng Ngorsaf Heddlu Aberystwyth er mwyn codi arian a rhwydweithio dros ddishgled o goffi a chacen!
Bydd yr elw’n mynd tuag at gefnogi taith feiciau arfordir-i-arfordir “Bobi ar Feic’ 2012, er budd gorsafoedd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub lleol, sy’n digwydd ar 27 Mai 2012.
Grŵp o feicwyr yr Heddlu yw “Bobi ar Feic”. Maent wedi codi mwy na £80,000 dros ddeng mlynedd drwy gymryd rhan mewn teithiau beic noddedig ym Mhrydain, America a Sgandinafia.
Y llynedd, codwyd dros £19,000 ar gyfer elusen Ymchwil Cancr a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub wrth i’r beicwyr reidio o arfordir y dwyrain i Borth.
Mae’r grŵp yn derbyn nawdd arbennig yn Aberystwyth gan Cambrian Tyres a dŵr Tŷ Nant., ynghyd â nifer o gwmnïoedd eraill ar gyfer digwyddiadau y tu allan i Gymru.
Bydd Mel yn ail-adrodd taith 400 milltir y llynedd a bydd 50 o feicwyr eraill yn ymuno â hi gan deithio o Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub Aldeburgh i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub Borth. Meddai, “Mae’r digwyddiadau hyn yn llwyfan perffaith i Heddlu Dyfed-Powys arddangos ei ymrwymiad tuag at y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu a sefydliad mor arwyddocaol, sy’n cyflwyno gwasanaeth hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch pobl mewn cyfnodau o angen ar draws arfordir Ceredigion.
“Dyma achos arbennig, ac yn ogystal â diolch i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, dymuna pob un ohonom sy’n cymryd rhan ddiolch i’n teulu, ffrindiau, cydweithwyr ac aelodau’r cyhoedd am eu cefnogaeth.”
I gefnogi Mel a’i chyd feicwyr, ewch i www.bobbyonabike.com a dilynwch y ddolen Just Giving, neu rhowch £5 drwy anfon neges destun at Just-Text-Giving cwmni Vodafone – tecstiwch BOAB54 £5 at 70070.


