Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn cymeradwyo cynnydd o 5% yn y praesept:

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Ian Arundale: “Rwy’n falch bod Awdurdod yr Heddlu wedi penderfynu cynyddu’r praesept 5%. Fodd bynnag, mae dal angen i’r Heddlu leihau costau’n sylweddol, ac er y croesawir newyddion heddiw, ni fydd o reidrwydd yn gwella’n sefyllfa, dim ond atal pethau rhag gwaethygu. 

“Ni fydd y codiad o 5% yn y praesept yn helpu’r Heddlu i dyfu, ond bydd yn helpu i sefydlogi’n arbedion costau ar 20%.

“Deallaf fod yr argyfwng ariannol yn anodd i bawb, ac rwyf am sicrhau pobl yn y cymunedau a wasanaethir gennym yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru mai diogelu’r rheng flaen cymaint ag sy’n bosibl yw’n blaenoriaeth.”

-Diwedd-