Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cafn bwydo wedi’i ddwyn o gae ger Croesoswallt

Mae Heddlu’r Trallwng yn cynnal ymchwiliad yn dilyn lladrad cafn bwydo metel galfanedig glas 8’ x 4’ o Gefnhir, Llanrhaeadr, ger Croesoswallt.

Aed â’r cafn o gae rhywbryd rhwng 8am ddydd Gwener 3 Chwefror a 8am ddydd Sadwrn 4 Chwefror.

“Rydym wedi gweld nifer o ladradau metel ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys,” meddai PC Mark White. “Byddwn yn annog preswylwyr i fod yn wyliadwrus o hyn a chymryd camau gweithredu priodol er mwyn diogelu eu heiddo.

“Gellir cael gwybodaeth ynghylch sut i ddiogelu’ch eiddo rhag lladron metel ar ein gwefan, www.dyfed-powys.police.uk .”