Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Ceisio adborth ynghylch blaenoriaethau cydraddoldeb yr heddlu

Ar hyn o bryd, mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymgynghori ynghylch ei flaenoriaethau ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn paratoad ar gyfer ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2012 – 2016.

 

Mae’r ddogfen ymgynghori yn gosod y rhesymau dros y blaenoriaethau cydraddoldeb rydym wedi eu nodi. Mae’r ddogfen ymgynghori a’r holiadur ar-lein ar gael ar ein gwefan:

 

http://www.dyfed-powys.police.uk/cy/about-us/equality-and-diversity/ein-hamcanion-cydraddoldeb

 

“Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo’n llawn i sicrhau bod pawb sy’n byw, gweithio neu’n ymweld ag ardal Heddlu Dyfed-Powys yn cael eu trin mewn modd sy’n deg, yn cwrdd â’u gofynion penodol nhw, ac nad yw’n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolyn,” meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Jackie Roberts. “Eisoes, mae gennym systemau a pholisïau mewn lle, a syniad da o’r hyn yw’n blaenoriaethau cydraddoldeb ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

 

“Ond rydym angen safbwyntiau a barn y gymuned ehangach, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn materion cydraddoldeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”

 

Gall unrhyw un sydd yn dymuno rhoi adborth ymweld â thudalen gwe’r heddlu http://www.dyfed-powys.police.uk/sites/default/files/111208_consultation_equality_priorities_5.pdf

er mwyn darllen y ddogfen ymgynghori. Gellir anfon awgrymiadau at http://www.snapsurveys.com/swh/surveylogin.asp?k=132645369215 .

 

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 29 Chwefror 2012.