Page Content Starts Here
Coffor wedi’i ddwyn o siop gymunedol yn Llanfechain
Iau 02 Chwef 2012
Mae heddlu’r Trallwng yn ymchwilio i fyrgleriaeth yn siop gymunedol Llanfechain a ddigwyddodd dros nos ar nos Fercher 1 Chwefror.
Mae dihirod wedi mynd mewn i’r siop a dwyn y coffor, a oedd yn cynnwys swm bychan o arian.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y drosedd hon gysylltu â heddlu’r Trallwng ar 101.


