Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Difrod i gar yn Aberhonddu

Defnyddiwyd paent i achosi difrod i gar Ford Focus du pan oedd wedi’i barcio ar Ffordd Aberhonddu yn Aberhonddu.

Arllwyswyd y paent melyn dros gist a boned y car, ac ysgrifennwyd graffiti ar hyd un ochr.

Credir i’r difrod ddigwydd rhywbryd rhwng hanner nos a 7.30am ar Ddydd Calan.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Gorsaf Heddlu Aberhonddu ar 101.