Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Dillad hyfforddi’r Scarlets wedi’u dwyn o garej

Rhywbryd yn ystod yr wythnosau diwethaf, torrwyd i mewn i garej ym Mhant Bryn Isaf, Llwynhendy a chafodd nifer fawr o ddillad hyfforddi’r Scarlets eu dwyn.

Mae’r eitemau’n cynnwys siorts, crysau T, topiau hyfforddi a sanau – y rhan fwyaf ohonynt â logo tîm y Scarlets arnynt.

Mae’r eitemau hyn yn eithaf unigryw gan fod yr ynydau DM wedi’i brintio arnynt. Hefyd ymysg yr eitemau a gafodd eu dwyn mae dillad menywod gan gynnwys topiau o siop River Island a hwdi glas Billabong.

Gallai’r lladrad hwn fod wedi digwydd unrhyw bryd yn ystod y pum wythnos diwethaf.