Diweddariad ar y Cyfarfod gydag Awdurdodau Gwlad Thai
Hedfanodd Uwch Ditectifs o Heddlu Dyfed-Powys i Bangkok ar y penwythnos er mwyn cyfarfod â Swyddogion o’r Adran Ymchwiliadau Arbennig yng Ngwlad Thai.
Roeddynt eisiau sicrhau bod yr Awdurdodau dal wedi ymrwymo i ddod o hyd i’r troseddwr a lofruddiodd Kirsty Jones yn Chiang Mai ym mis Awst 2000.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Steve Wilkins, “Cawsom gyfarfod gadarnhaol iawn gyda’r Cyfarwyddwr Cyffredinol a Swyddogion o’r Adran Ymchwiliadau Arbennig heddiw. Rydym wedi llwyddo i sicrhau eu hymroddiad parhaus tuag at chwilio am yr unigolyn a lofruddiodd Kirsty bron deuddeg mlynedd yn ôl a’i ddwyn i gyfiawnder.
“Rydym wedi trafod a chytuno ar lwybrau ymholi sy’n canolbwyntio ar DNA. Rydym hefyd wedi siarad am lwybrau eraill posibl ar gyfer yr ymchwiliad, ond byddaf yn trafod y rhain gyda’r teulu cyn eu dilyn ymhellach.”


