Page Content Starts Here
Diweddariad pellach ar ymchwiliad Capel Isaf
Mer 01 Chwef 2012
Mae’r heddlu yn Llanelli’n parhau i ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol a ddigwyddodd ar Heol Capel Isaf, Llanelli.
“Mae ditectifs yn awyddus i siarad â dyn a gafodd ei ddal ar deledu cylch cyfyng yn cerdded ar hyd Teras Glyncoed, Llanelli am oddeutu 4.20am ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr 2012,” meddai’r Ditectif Arolygydd Gary Phillips. “Os ydych chi’n adnabod y dyn hwn, neu os mai chi yw’r dyn, yna cysylltwch â swyddogion yn CID Llanelli ar 101.”


