Dywed heddlu’r Trallwng fod dwy warant gyffuriau wedi’u gweithredu ym mis
Dywed heddlu’r Trallwng fod dwy warant gyffuriau wedi’u gweithredu ym mis Ionawr lle y daeth swyddogion ar draws troseddau tyfu canabis. Roedd un o’r troseddau hyn, a ddigwyddodd yn ardal Llanfair Caereinion, yn un mawr ac arestiwyd menyw yn y fan a'r lle. Ar hyn o bryd, mae hi ar fechnïaeth yr heddlu hyd nes y gwneir penderfyniad cyhuddo.
Gweithredwyd yr ail warant ar ystâd breswyl yn y Trallwng. Daeth swyddogion o hyd i ystafelloedd a bennwyd yn benodol ar gyfer tyfu planhigion canabis yn artiffisial. Arestiwyd un dyn, ac mae ef hefyd ar fechnïaeth yr heddlu hyd nes y gwneir penderfyniad cyhuddo.
Unwaith eto, mae’r digwyddiadau hyn yn dangos bod Heddlu’r Trallwng wedi ymrwymo i ymdrin yn gadarnhaol â throseddau cyffuriau yn nhref y Trallwng a’r ardaloedd cyfagos. Ategodd llefarydd ar ran yr Heddlu neges sydd eisoes wedi’i rhoi i ddefnyddwyr cyffuriau,
“Ni fyddwn yn dioddef camddefnyddio cyffuriau o gwbl ac anogwn aelodau’n cymunedau i riportio’u amheuon i’r heddlu fel ein bod yn medru ymdrin ag unigolion a grwpiau’n gyflym ac yn effeithiol.
"Nid oes problem fawr gennym o ran cyffuriau yn yr ardal, ond mae yna nifer bychan o bobl a fydd yn parhau i ddefnyddio cyffuriau yn eu bywydau pob dydd, a gall hyn effeithio ar drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.
"Ni ddioddefir materion ansawdd bywyd megis camddefnyddio cyffuriau ac alcohol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a byddwn yn ymdrechu i ymdrin â’r materion hyn yn gadarnhaol gyda’n hasiantaethau partner er mwyn gwella ansawdd bywyd ar gyfer ein preswylwyr.
"Os oes gennych unrhyw amheuon bod cyffuriau’n cael eu camddefnyddio yn yr ardal, riportiwch hyn i Heddlu Dyfed-Powys ar y rhif difrys newydd 101, neu drwy anfon e-bost at welshpooltownnpt@dyfed-powys.pnn.police.uk <mailto:welshpooltownnpt@dyfed-powys.pnn.police.uk>.
"Os oes gennych wybodaeth ond nid ydych yn dymuno rhoi’ch enw, medrwch alw Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111, a gallech gael gwobr.


