Heddlu’n chwilio am ddyn coll yn Rhydaman
John Wayne Morgan
Mae swyddogion yn Rhydaman yn apelio am gymorth gan y cyhoedd i ddod o hyd i ddyn 37 oed sydd wedi’i riportio fel unigolyn coll yn yr ardal.
Mae Wayne John Morgan, sydd yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘Wolfman’, wedi bod yn byw bywyd amgen o gwmpas ardal Pantyffynnon. Nid yw ei deulu wedi ei weld ers pedair blynedd, ond nawr, mae pryderon wedi codi ynghylch lles Mr Morgan.
“Rydym yn ymwybodol bod dyn a adnabyddir yn lleol fel ‘Wolfman’ wedi bod yn byw yn ardal coedwig Pantyffynnon ers nifer o flynyddoedd,” meddai’r Rhingyll Teresa Ross. “Credir ei fod wedi bod yn cysgu allan, a hyd y gwyddwn, nid yw’n hawlio budd-daliadau ac nid yw wedi cofrestru gydag unrhyw asiantaeth.
“Fodd bynnag, ar ôl cyfnod hir o beidio â chysylltu ag aelodau o’i deulu, mae ei berthnasau nawr yn poeni am ei les.
“Gofynnaf i unrhyw un sydd wedi cerdded yn ardal Pantyffynnon a Thycroes a’r cyffiniau, ac a allai fod wedi gweld y dyn hwn, i gysylltu â ni a dweud wrthym ble y’i gwelwyd.
“Hefyd, gan ei fod yn cysgu allan, efallai ei fod yn chwilio am fwyd. Os ydych chi’n amau bod eitemau bwyd ar goll o’ch storfeydd, neu'n amau bod unrhyw adeiladau allanol megis siediau gardd a garejys wedi’u haflonyddu, cysylltwch â ni os gwelwch chi’n dda.”
Gellir cysylltu â’r Heddlu yng Ngorsaf Heddlu Rhydaman ar 101.


