Heddlu’n chwilio am ffilm teledu cylch cyfyng preifat er mwyn helpu gyda’u hymholiadau i ymosodiad rhyw yng Nghapel Isaf
Mae swyddogion heddlu yn Llanelli sy’n ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol a ddigwyddodd ar Heol Capel Isaf ar 21 Ionawr 2012 yn gofyn i unrhyw un a allai fod â theledu cylch cyfyng preifat ac sy’n byw ar Heol Llandafen, Heol Pemberton Road, Heol Llwynhendy a Heol Gelli i gysylltu â CID Llanelli.
Mae swyddogion ymchwilio hefyd dal yn awyddus i ddod o hyd i’r dyn a gafodd ei ddal ar deledu cylch cyfyng yn cerdded ar hyd Teras Glyncoed am oddeutu 4.20am ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr 2012.
“Rydym yn awyddus i siarad â’r dyn hwn gan ei fod yn dyst posibl a allai fod â gwybodaeth bwysig i’n cynorthwyo â’n hymchwiliad,” meddai’r Ditectif Arolygydd Gary Phillips. “Os ydych chi’n adnabod y dyn hwn, neu os mai chi ydyw, yna cysylltwch â swyddogion yn CID Llanelli ar 101.”


