Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Heddlu’n cynnal ymchwiliadau i ddwy fyrgleriaeth yn ardal y Trallwng

Mae dwy fyrgleriaeth, un ohonynt yn ymgais aflwyddiannus, yn cael eu hymchwilio gan swyddogion yn y Trallwng.

Digwyddodd y gyntaf tua hanner milltir o Neuadd Bridge, i gyfeiriad Meifod ar yr A495 ar nos Iau 26/dydd Gwener 27 Ionawr. Dygwyd gwerth oddeutu £500 o fetel sgrap ac offer nad oes modd eu hadnabod.

Yn yr ail ddigwyddiad dros nos ar nos Fercher 25 Ionawr, hefyd ar yr A495, rhwng y troad i Lanfyllin a Llansantffraid,  gwnaed ymgais i fynd mewn i sied. Ni ddygwyd unrhyw beth yn yr achos hwn, ond tynnwyd clo sied i ffwrdd gan ddefnyddio torrwr bollt.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am unrhyw un o’r troseddau hyn i gysylltu â heddlu’r Trallwng ar 101.