Page Content Starts Here
Heddlu’n dod o hyd i unigolyn coll yn Aberhonddu
Llun 06 Chwef 2012
Gall yr heddlu gadarnhau eu bod wedi dod o hyd i’r fenyw 71 oed a riportiwyd fel unigolyn coll yn gynharach y bore hwn yn ddiogel ac yn iach.
Riportiwyd Patricia Ann Evans fel unigolyn coll ar ôl mynd a’i chi am dro brynhawn ddoe.
Daeth aelod o’r cyhoedd o hyd iddi tua hanner milltir y tu allan i bentref Bronllys a thua milltir i ffwrdd o’i chartref, yn gynharach y bore hwn.
“Yn ffodus, mae Mrs Evans yn ymddangos yn dda yn dilyn ei phrofiad ac mae staff meddygol nawr yn gofalu amdani,” meddai’r Arolygydd Stuart Eckley. “Hoffwn ddiolch i aelodau’r cyhoedd a gynorthwyodd wrth i ni chwilio am Mrs Evans, ac yn arbennig i’r un a ddaeth o hyd iddi.”


