Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Lladron metel yn targedu tafarn

Mae tŷ tafarn yn Llanelli wedi’i dargedu gan ladron sydd wedi dwyn tanc a phibau copr o du mewn i’r eiddo.

Digwyddodd y lladrad yn nhafarn y Royal Oak, Bryn, rhywbryd rhwng 5pm ddydd Gwener 20 Ionawr a 9.30am ddydd Llun 23 Ionawr.

“Mae’r eiddo wedi bod yn wag ers peth amser ac mae’n ymddangos ei fod yn darged i ladron” meddai’r Rhingyll Eddie Donnelly. “Gofynnaf i breswylwyr sy’n byw gerllaw i fod yn wyliadwrus a riportio unrhyw ddigwyddiadau amheus yn y dafarn i’r heddlu drwy’n ffonio yng Ngorsaf Heddlu Llwynhendy ar 101.”