Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Lladron yn Talu am fenter Parc Sglefrio!

Y Rhingyll Alison Rees gyda Chydlynydd y Prosiect, Kate Dunwell a rhai o’r bobl ifainc a fydd yn elwa o’r arian.

Nid pob dydd y gallwch ddweud bod trosedd yn talu – ond diolch i Gronfa Ysgogi Heddlu Dyfed-Powys, mae rhaglen ieuenctid lleol wedi derbyn £1,000.

Derbyniwyd yr arian, a roddwyd tuag at brosiect cynllunio ac adeiladu Parc Sglefrio yn Aberteifi, ar ôl i’r Heddlu adennill ac atafaelu asedau troseddol. Cychwynnwyd y fenter gan Theatr Byd Bach. Bydd yn gweithio gyda defnyddwyr y parc sglefrio a phobl ifainc Hen Fod Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant (NEETS).

Yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth, bydd y fenter yn cynnwys gwasanaethau cyfeirio disgyblion, gweithwyr ieuenctid a busnesau lleol er mwyn cynllunio ac adeiladu ardal eistedd/cysgodfa yn y parc sglefrio yn Aberteifi.

Bydd y fenter yn cael ei harwain gan gyfranogwyr, fel bod pawb yn gallu rhannu safbwyntiau a syniadau a rhoi adborth yn gyfartal. Mae’r fenter wedi’i chynllunio’n arbennig i ddod â gwahanol sectorau yn Aberteifi at ei gilydd mewn modd adeiladol, creadigol a datblygiadol, a gan hynny’n atgyfnerthu cydlynu cymunedol. Mae gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer y fenter ar gael ar wefan Theatr Byd Bach, smallworld.org.uk.

Mae’r fenter yn cael ei chefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy CGGC, Cyngor Celfyddydau Cymru a Heddlu Dyfed-Powys. Mae’n rhoi cyfle i gyfranogwyr ennill cymhwyster, ac yn y pen draw, gall gynnig llwybr amgen i addysg a chyflogaeth.

Dywedodd Rhingyll Aberteifi Alison Rees, “Mae defnyddio arian sydd wedi ei atafaelu fel hyn yn arwydd o ymroddiad Heddlu Dyfed-Powys i ddal troseddwyr a’u dwyn gerbron eu gwell, a chefnogi prosiectau cydlynu cymunedol.

“Mae rhoi cyfle i oedolion ifainc gymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladol a gwella eu sgiliau cymdeithasol yn enghraifft wych o ymgysylltu cymunedol cyfrifol, ac mae’r heddlu yng Ngheredigion yn falch iawn o gefnogi hyn. Yn ogystal, bydd cael mewnbwn uniongyrchol yn y broses o’r cychwyn cyntaf yn creu ymdeimlad o berchnogaeth a balchder yn y cydlwyddiant.”