Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Modurwr yn marw yn dilyn gwrthdrawiad traffig y ffyrdd ar yr A470 ger Llangurig

Mae menyw ifanc wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad traffig y ffyrdd ar yr A470 rhwng Rhaeadr a Llangurig.

Digwyddodd y ddamwain tua phedair milltir y tu allan i Langurig am oddeutu 6.40 o’r gloch ar nos Fercher 1 Chwefror. Roedd dau gerbyd yn gysylltiedig â’r ddamwain - Ford Mondeo du a Daewoo Matiz arian. 

Cadarnhawyd bod gyrrwr y Matiz, menyw o’r ardal leol y credir iddi fod yn ei hugeiniau, yn farw wrth y lleoliad. 

“Mae swyddogion sy’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad nawr yn gobeithio clywed gan unrhyw un a welodd un o’r ddau gerbyd hyn yn yr ardal o gwmpas amser y ddamwain, neu a allai fod wedi gweld y ddamwain yn digwydd,” meddai’r Arolygydd Mark Davies o Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru. “Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod yn berthnasol gysylltu â swyddogion yng Ngorsaf Heddlu’r Drenewydd ar 101.”