Pryder am unigolyn coll o Landefalle, Aberhonddu
Missing - Patricia ('Trish') Ann Evans
Mae swyddogion yn Aberhonddu’n pryderi am les Patricia Ann Evans, 71 oed. Fe’i gwelwyd diwethaf yn gadael ei chartref yn Llandefalle ger Aberhonddu wrth iddi fynd â’i chi am dro am oddeutu 3pm ddydd Sul 5 Chwefror 2012.
Adnabyddir Mrs Evans yn lleol fel ‘Trish’. Mae hi’n dioddef o’r salwch dementia, yn rhannol ddall, ac mae ganddi amryw o broblemau iechyd eraill. Fe’i disgrifir fel menyw 5’8” o daldra, o gorffolaeth ganolig, gyda gwallt gwyn a llygaid brown. Mae hi’n gwisgo sbectol siâp sgwâr gyda manylion addurniadol ar yr ochrau. Pan y’i gwelwyd diwethaf, roedd hi’n gwisgo siwmper felen gyda gwresogydd corff lliw llwydfelyn drosti a siaced binc. Hefyd, roedd hi’n gwisgo jîns denim glas golau. Mae ganddi sandalau “aer cynnes” lliw llwydfelyn am ei thraed.
Roedd ei daeargi 9 mis oed, Barney, gyda hi. Gwyn yw lliw’r ci ac mae ganddo got fer. Mae gan Barney goler coch a lîd gyda phatrwm esgyrn coch. Mae’n mynd â’r ci am dro yn rheolaidd, ac fel arfer, mae’n aros o fewn radiws o 10 munud neu tua milltir o’i chartref – ond ar brydiau, mae hi wedi mynd ymhellach, a gallai fod yn unrhyw le.
Rydym yn apelio ar i unrhyw un sydd wedi gweld Trish, neu unrhyw un sy’n ateb ei disgrifiad ers prynhawn ddoe i gysylltu â ni yn syth. Rydym yr un mor awyddus i glywed wrth unrhyw un a allai fod wedi gweld y daeargi gwyn i gysylltu â ni mor fuan ag sy’n bosibl. Galwch ni ar 101 os oes gennych unrhyw wybodaeth.


