Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Rhybuddio pobl ifainc am beryglon trosedd a chamddefnyddio cyffuriau

Trwy gydol y mis hwn, Cynhelir drama a chyfres o weithdai sydd wedi eu hanelu at addysgu pobl ifainc am beryglon troseddolrwydd a chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol mewn ysgolion uwchradd ledled Sir Benfro ddiwedd mis Chwefror.

Digwyddiad amlasiantaethol yw ‘Crime of Yor Life’ sydd bellach yn ei degfed flwyddyn ac yn cynnwys drama a gweithdai rhyngweithiol sy’n dangos canlyniadau trosedd a chamddefnyddio sylweddau ar unigolion a chymunedau.

Trefnir y digwyddiad, sy’n rhedeg o ddydd Llun 27 Chwefror i ddydd Mawrth 6 Mawrth, gan Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Llys Ynadon Hwlffordd, y Tîm Troseddau Ieuenctid, Gwasanaeth Arbenigol Yfed a Chyffuriau (SUDDS) a Chymorth i Ddioddefwyr.

Mae ‘Crime of Your Life’ yn rhan o Raglen Gyswllt Craidd yr Heddlu i Ysgolion Cymru Gyfan, ac wedi ei anelu at ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3, sef plant o 11 – 13 oed ym mlynyddoedd 7 ac 8. Mae’n cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth y Cynulliad a’r pedwar Heddlu yng Nghymru ac yn gweithredu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru.

Mae’r bartneriaeth rhwng ysgolion a’r heddlu yn darparu strategaeth bositif i ysgolion fel bod pob disgybl yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiad, agweddau a’u sgiliau yn ymwneud â:

Chamddefnyddio sylweddau, gan gynnwys alcohol
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Diogelwch personol

Ymysg yr ysgolion yn Sir Benfro sy’n cymryd rhan y mis hwn mae: Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod; Ysgol Dewi Sant; Ysgol Gyfun Penfro; Ysgol Gyfun Aberdaugleddau; Ysgol Uwchradd Abergwaun, Ysgol y Preseli ac Ysgol Tasker Milward, Hwlffordd.

Dywedodd Jenny Thomas, Swyddog Cyswllt Ysgolion Heddlu Dyfed-Powys, “Bydd disgyblion yn gwylio’r ddrama ‘Crime of Your Life’, sydd yn cael ei pherfformio gan fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio o Goleg Sir Benfro. Mae’n sôn am hanes rhywun sy’n cychwyn mân-droseddu, ac yna’n symud ymlaen i gyflawni troseddau mwy difrifol. Mae’r ddrama’n dangos y canlyniadau i’r unigolyn a’r effaith y mae ei ddrwgweithredoedd yn cael ar ei deulu, ei ffrindiau a’r gymuned.

“Mae ‘Crime of Your Life’ yn enghraifft arbennig o waith partneriaeth ar ei orau ac mae’n dangos beth y gellir ei gyflawni pan mae asiantaethau’n gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol. Trwy addysgu pobl ifainc ynghylch realiti troseddu a chamddefnyddio sylweddau, rydym yn gobeithio y byddant yn llai tebygol o fyw'r math hwn o fywyd dinistriol.”

Ar ddiwedd y ddrama, bydd disgyblion yn cymryd rhan mewn chwe gweithdy rhyngweithiol sy’n archwilio i brif themâu’r ddrama ac yn cynnig cyngor a negeseuon pwysig ar sut i osgoi bywyd o droseddu a chamddefnyddio sylweddau.

Bydd Swyddogion Cyswllt Ysgolion Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal gweithdy ar ffurf cwis a fydd yn archwilio ac yn trafod canlyniadau trosedd. Bydd modd i fyfyrwyr ddefnyddio teclynnau llaw electronig, fel y rhai sydd ar y rhaglen deledu ‘Who Wants To Be a Millionaire?’, i gofrestru eu hatebion, a ddangosir ar fwrdd gwyn.