Page Content Starts Here
System lywio lloeren wedi’i dwyn o gar a oedd heb ei ddiogelu yn Llanandras
Iau 02 Chwef 2012
Dygwyd system lywio lloeren o gar a oedd wedi’i adael heb ei ddiogelu ar Broad Street yn Llanandras.
Aed â’r system o gar Skoda Octavie rhywbryd rhwng 6pm ar nos Lun 30 Ionawr a 7.30am ar ddydd Mercher 1 Chwefror.
Yn ogystal, cafodd ffôn symudol Nokia ei ddwyn.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â swyddogion yng Ngorsaf Heddlu Llandrindod ar 101.


