Tîm Plismona Bro Powys yn rhoi arian i glwb bocsio
Gyda diolch i waith partneriaeth rhwng Tîm Plismona Bro Aberhonddu (yn arbennig PC 828 Sara Meredith) a Chymdeithas Dai Wales & West, derbyniodd Clwb Bocsio Amatur Aberhonddu siec am £495 yn ddiweddar er mwyn iddynt brynu offer newydd.
Roedd Cymdeithas Dai Wales & West yn awyddus i roi cymorth ariannol i’r clwb gan ei fod yn darparu ar gyfer nifer o bobl ifainc sy’n byw ar ystadau yn Aberhonddu. Roedd hyn yn dangos eu bod yn medru gweithredu’n hael yn ogystal â gweithredu’n llym ar ôl iddynt droi allan cymydog trafferthus yn Aberhonddu llynedd.
Rhoddodd Alison Chaplin, a oedd yn cynrychioli Cymdeithas Dai Wales & West, y siec i Dave Gilbert o CID Aberhonddu, sy’n un o hyfforddwyr y clwb. Hefyd yn y llun mae PCSO Bryony Hope a rhai o’r bobl ifainc sy’n hyfforddi tair gwaith yr wythnos.
Gyda nifer o’r bobl ifainc yn cystadlu yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol eleni, croesawir a gwerthfawrogir yr arian.
Llun: Pobl ifainc o’r clwb bocsio gyda’u siec.


