Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Ymchwilio i achosion o ddifrod troseddol yn y Drenewydd

Mae heddlu’r Drenewydd yn ymchwilio i ddau achos o ddifrod troseddol nad ydynt yn gysylltiedig â’i gilydd.

Yn y digwyddiad cyntaf, taflwyd bricsen drwy ffenestr Eglwys Efengylaidd y Drenewydd ar Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd, rhywbryd rhwng 8.30pm a 8.40pm ar nos Wener 27 Ionawr 2012.

Yn yr ail ddigwyddiad, defnyddiwyd offeryn anhysbys er mwyn slaesu teiars car tra’i fod wedi parcio y tu allan i dŷ yng Nghledan, Treowen, Y Drenewydd. Digwyddodd hyn rhywbryd rhwng hanner nos ar nos Sul 15 Ionawr a hanner nos ar nos Lun 16 Ionawr. 

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y naill ddigwyddiad neu’r llall i gysylltu â Gorsaf Heddlu’r Drenewydd ar 101.