Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Ymchwilio i fyrgleriaeth mewn hufenfa

Mae swyddogion yn y Trallwng yn ymchwilio ar ôl i rywun neu rywrai dorri mewn i’r hen hufenfa yn ardal Four Crosses, y Trallwng.

Digwyddodd hyn rhywbryd rhwng 4.30pm ddydd Mawrth 24 Ionawr a 8am ddydd Mercher 25 Ionawr 2012 yn Hughes Caterers.

Dygwyd nifer o eitemau o’r safle yn ystod y fyrgleriaeth gan gynnwys esgidiau, swm o arian a gwirodydd.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â PC Sara Tinnuche yng Ngorsaf Heddlu’r Trallwng ar 101.