Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Plismona Bro
  3. Sir Benfro
  4. Panel Dinasyddion Sir Benfro

Panel Dinasyddion Sir Benfro

Cafodd Panel Dinasyddion Sir Benfro, sy’n fenter ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Sir Penfro, Bwrdd Iechyd Hywel Dda , ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei sefydlu yn 2005. Mae’r Panel yn cynnwys grŵp cynrychiolaidd o tua 1,000 o drigolion Sir Benfro sydd wedi cytuno i roi eu barn am y gwasanaethau a ddarperir gan y partneriaid uchod.

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.

Pam mae angen Panel Dinasyddion?

Mae pob un o’r partner sefydliadau angen canfod barn y bobl leol am eu gwasanaethau. Pe bai pob un ohonynt yn gwneud hyn ar wahân, byddai hynny’n broses gostus a byddai rhaid gofyn barn trigolion byth a beunydd. Mae pob un o’r partneriaid yn cyfrannu i gostau’r Panel, gan ei wneud yn ffordd fwy cost effeithiol ac effeithlon o ganfod eich barn chi.

A oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod?

Mae canran benodol o'r aelodaeth yn newid bob blwyddyn i sicrhau bod y Panel yn parhau i fod yn gynrychioliadol a hefyd i roi'r cyfle i gynifer o bobl â phosib gymryd rhan.

Os ydych yn byw yn Sir Benfro ac yn dymuno dweud eich dweud am wasanaethau, cynlluniau a chynigion lleol, llenwch ein ffurflen aelodaeth ar-lein yn ddi-oed!

Bydd y rheiny sy'n llenwi ein ffurflen aelodaeth yn mynd trwy’r broses ddethol i sicrhau bod y Panel yn cynrychioli croestoriad o boblogaeth Sir Benfro a fydd yn fodd inni gael syniad cytbwys am farn y trigolion.

Beth y mae’n rhaid i aelodau’r Panel ei wneud? Sut y defnyddir y wybodaeth?

Pob blwyddyn, gofynnir i aelodau’r Panel gwblhau 3 holiaduron post am y gwasanaethau a ddarperir gan y partneriaid, a defnyddir yr atebion wrth gynllunio gwasanaethau lleol a phenderfynu sut i’w cyflwyno a materion eraill megis y modd y mae’r partneriaid yn cysylltu â phobl leol.

Oherwydd bod y Panel yn gynrychiolaidd o boblogaeth Sir Benfro, gallwn fesur nid yn unig barn trigolion y sir yn gyfan ond hefyd barn trigolion gwahanol ardaloedd daearyddol o fewn y sir.

Canlyniadau

Yn dilyn pob ymarfer ymgynghori, bydd aelodau’r Panel yn derbyn taflen newyddion yn amlinellu canlyniadau’r ymgynghoriad blaenorol ac, yn bwysicach, yn dweud sut y mae’r partneriaid yn bwriadu ymateb i’r farn a fynegwyd.

Contact

Yn dysgu’r GymraegOs hoffech gael rhagor o wybodaeth am Banel Dinasyddion Sir Benfro, cysylltwch â Zoë Thomas, Rheolwr Prosiect Panel y Dinasyddion ar 01267 226639 neu e-bostiwch zoe.thomas@dyfed-powys.pnn.police.uk.

29/07/10 8:27