Tîm Plismona Bro Aberdaugleddau Wledig
Blaenoriaethau
- Goryrru ar Heol Langford, Johnston
- Cŵn yn baeddu yn ardal y Marina yn Neyland
Beth Rydym Ni Wedi’i Wneud
- Goryrru a defnyddio ffonau symudol wrth yrru drwy Little Honeyborough
Mae swyddogion wedi ymweld â Little Honeyborough mewn perthynas â goryrru a phobl yn defnyddio ffonau symudol wrth yrru. Ni ddarganfuwyd unrhyw droseddau. Bydd swyddogion yn parhau i fonitro’r sefyllfa. - Ymddygiad gwrthgymdeithasol gan yrwyr cerbydau modur yn ardal Marina Neyland
Mae’r tîm wedi patrolio ardal y Marina mewn perthynas â cherbydau’n cael eu gyrru mewn modd gwrthgymdeithasol. Siaradwyd â rhai gyrwyr ond ni chofnodwyd unrhyw droseddau.
Ardal
Mae’r ardal dan ofal Tîm Aberdaugleddau Wledig yn cynnwys Neyland, Johnston, Burton, Llangwm, Hook, Hill Mountain, Sardis, Houghton, Freystrop, Tiers Cross, Herbrandston, Dale, Marloes, Llanismel, Sain Ffred, Dreen Hill, Castell Gwalchmai a St Martins Haven.
Pwy 'di Pwy
PC Terri Harrison
Rhif Coler: 968
Mae’n bosib y gwelwch chi gipolwg o’r PC Terri Harrison wrth iddi seiclo neu redeg i’r gwaith. Dywedodd: “Y peth dwi’n edrych ymlaen ato fwyaf yw helpu’r gymuned, a sefydlu cymorthfeydd cymunedol yn yr ardaloedd gwledig megis Dale.”
PCSO Lyndon Brown
Rhif Coler: 8062
Mae’r PCSO Lyndon Brown wedi dilyn ôl troed ei dad wrth ymuno â’r gwasanaeth heddlu. Dywedodd Lyndon: “Rwy’n setlo lawr yn iawn yn fy rôl fel PCSO. Rwy’n ystyried ei bod yn her arbennig i weithio gyda’r gymuned leol a sefydliadau eraill wrth geisio datrys problemau a gwneud hwn yn well lle i fod ynddo. Rwy’n mwynhau pob agwedd o’m gwaith yn enwedig cwrdd ag aelodau o’r gymuned a’u helpu gyda’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw.”
PCSO Helen Scott
Rhif Coler: 8057
Mae’r cyn hyfforddwraig ffitrwydd PSCO Scott yn edrych ymlaen at helpu pobl i wneud eu cymdogaethau’n llefydd pleserus i fyw ynddynt. Meddai: “Rwy’n mwynhau iechyd a ffitrwydd ac yn y gorffennol rydw i wedi cwblhau Marathon Llundain ddwywaith, ac rydw i nawr yn byw’n ddigon agos i allu rhedeg neu feicio i’r gwaith. Rwy’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored, nid y tu ôl i ddesg, felly rwy’n edrych ymlaen at gerdded o amgylch fy ardal yn cyfarfod â phawb.”
Cysylltu â'r Tîm
E-bost
milfordhavenNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk
Mae’r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer materion Plismona Bro yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall defnyddiwch ContactCentre@dyfed-powys.pnn.police.uk
Ffôn 101
Os ydych yn gwybod pwy rydych am siarad â nhw, gofynnwch amdanynt wrth eu henw a’u gorsaf. Bydd staff yn gallu cadarnhau os ydynt ar ddyletswydd a’ch cysylltu os ydynt ar gael, neu gymryd neges. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Gorsafoedd Heddlu
Beth Allwch Chi’i Wneud
Mynd i gyfarfodydd plismona bro, riportio troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a Gwarchod Cymdogaeth, ac ymweld â’ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am gynlluniau diogelwch cymunedol yn eich ardal chi.
Cyfarfodydd Bro
Dewch i drafod materion cymunedol gyda'ch Tîm Plismona Bro, a manteisio ar y cyfle i ddylanwadu ar eu blaenoriaethau plismona.
Canolfan Ddysgu, Ffordd Sant Clement, Neyland am 7pm ar y dydd Mercher 2il o bob mis
- 2nd Wednesday of every month, 7pm at The Teachers Centre, St Clements Road, Neyland
Cymorthfeydd
Siaradwch â’ch heddlu lleol yn gyfrinachol.
- Neyland: Dydd Llun 1af y mis rhwng 10 a 11am yn y Llyfrgell, Heol St Clement, Neyland
- Johnston: 2il Ddydd Llun y mis rhwng 10 a 11am yn Neuadd Oasis
- Dale: 4ydd dydd Llun o’r mis rhwng 11am a 12pm yn Swyddfa’r Post, Dale
- Hook: 4ydd dydd Iau o’r mis rhwng 3 a 4pm yn Siop Newtown
Cysylltiadau Defnyddiol
Mapiau Trosedd
I weld yr ystadegau troseddu ar gyfer eich ardal leol, ewch i wefan mapio trosedd Dyfed-Powys
Hafan