Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Plismona Bro
  3. Powys

Powys

Gwybodaeth am Bowys

Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac mae’n gorchuddio chwarter tir Cymru. Mae’r sir yn wledig iawn ac mae’n un o’r ardaleodd sydd â’r boblogaeth fwyaf gwasgaredig yng Nghymru a Lloegr.

Mae gan Bowys asedau rhyfeddol yn rhinwedd ei thirlun, o fynyddoedd dramatig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y de, bryniau Coedwig Maesyfed a Mynyddoedd y Cambria i Fynyddoedd y Berwyn yn y gogledd.

Mae’r economi yn seiliedig ar amaethyddiaeth a thwristiaeth, gyda lefel uchel o hunangyflogaeth a busnesau bychain yn bennaf, a chyfraniad pwysig i gyfleoedd cyflogaeth o’r sector cyhoeddus.

Mae’r prif ganolfannau poblogaeth yn cyd-fynd â rhanbarthau plismona’r Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais.

Yn nhermau plismona, mae trosedd isel yn nodwedd amlwg yn y sir. Mae’r troseddau mwyaf difrifol yn dueddol o gael eu cyflawni gan droseddwyr sy’n teithio o ardaloedd trefol o’r tu allan i’r sir. Mae gan Bowys 44% o’r cefnffyrdd o fewn ardal y llu ac mae wedi gweld cyfran uchel o ddamweiniau ffyrdd angeuol yn ddiweddar, gyda nifer ohonynt yn ymwneud â beiciau modur. Mae’r duedd hon o drosedd deithiol a damweiniau angeuol wedi’i hadlewyrchu ym mlaenoriaethau’r rhanbarth.

Dolenni Cyswllt Lleol

Crynodeb Plismona Lleol

Pwrpas y crynodeb hwn yw dangos i ba raddau y llwyddwyd i gyrraedd blaenoriaethau cenedlaethol a blaenoriaethau lleol 2005/06 a pha flaenoriaethau a bennwyd gan yr Awdurdod ar gyfer yr Heddlu yn 2006/07.

Download

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.

Crynodeb Plismona Powys 2006 - 2007 (PDF, 554 kB)
12/03/10 10:48