Panel Dinasyddion Powys
Yn 2006 dechreuodd Heddlu Dyfed-Powys a Chyngor Sir Powys gydweithio gyda’i gilydd trwy’r Panel Dinasyddion ac rydym yn ddiolchgar i gael y cyfle i ymgynghori â thrigolion lleol am faterion sydd o bwys iddynt.
Gofynnodd Cyngor Sir Powys i’w haelodau a fyddent yn fodlon llenwi holiadur ychwanegol ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys anfonir ein holiadur i’r aelodau hynny a gytunodd. Ar hyn o bryd, rydym yn cydweithio gyda’r Cyngor i gynhyrchu un holiadur y flwyddyn.
Ym mis Mai, dosbarthwyd ein trydydd arolwg oedd yn gofyn eich barn am nifer o bynciau gan gynnwys hyder yn yr heddlu, Gwarchod Cymdogaeth a Ffermydd, y Ganolfan Gyfathrebu, a mynediad at wybodaeth, adeiladau a gwasanaethau. Caiff canlyniadau’r arolwg eu postio yma hefyd cyn hir.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein partneriaeth â Phanel Dinasyddion Powys, cysylltwch â Zoë Thomas, Rheolwr Prosiect Panel y Dinasyddion ar 01267 226639 neu e-bostiwch zoe.thomas@dyfed-powys.pnn.police.uk.
Os hoffech fod yn aelod o’r Panel, cysylltwch â Swyddog Ymgynghori Corfforaethol Cyngor Sir Powys ar 01597 826043 neu ewch i dudalennau ‘Dweud Eich Dweud’ ar wefan y cyngor www.powys.gov.uk
Hafan