Tîm Plismona Bro Aberhonddu Wledig
Blaenoriaethau
- Cerbydau’n goryrru drwy Libanus
Beth Rydym Ni Wedi’i Wneud
- Rydym wedi cydweithio’n agos gyda’r Cyngor Cymuned a’r Cyngor Sir i godi arwydd sy’n ymateb i gyflymder ym mhentref Llan-gors.
- Rydym wedi sefydlu cynllun Gwarchod Cymdogaeth newydd yn ardal Yscir.
Ardal
The areas covered by the Brecon Rural Team include the wards of Llangors, Felin-fach, Yscir and Talybont-on-Usk.
Pwy 'di Pwy
Inspector Andrew Pitt
Rhif Coler: -
Mae’r Arolygydd Andrew Pitt wedi bod yn swyddog heddlu gyda Heddlu Dyfed-Powys am dair blynedd ar ddeg. Y mae wedi gweithio yn Sir Benfro ac yn Sir Gaerfyrddin cyn cael ei ddyrchafu i ranbarth Powys yn 2001. Mae’n wreiddiol o Gastell Nedd a nawr yn byw yn Aberhonddu gyda’i wraig a’i dri o blant bach. Mae’n awyddus i weithio’n agos gyda’r gymuned leol i oresgyn trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan sicrhau bod Aberhonddu, y Gelli Gandryll a Chrucywel yn parhau ymhlith y lleoedd mwyaf diogel i ymweld â hwy ac i fyw ynddynt.
PC Steve Nicholls
Rhif Coler: 1009
Mae PC Steven Nicholls yn swyddog bro arbenigol sy’n gweithio’n agos gyda’r fasnach drwyddedu er mwyn lleihau trosedd dreisgar.
PCSO Bryony Hope
Rhif Coler: 8051
PCSO Bryony Hope sy’n gyfrifol am ddatblygu cysylltiadau â’r cymdogaethau gwledig a’r cymunedau amaethyddol.
Cysylltu â'r Tîm
E-bost
BreconRuralNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk
Mae’r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer materion Plismona Bro yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall defnyddiwch ContactCentre@dyfed-powys.pnn.police.uk
Ffôn 101
Os ydych yn gwybod pwy rydych am siarad â nhw, gofynnwch amdanynt wrth eu henw a’u gorsaf. Bydd staff yn gallu cadarnhau os ydynt ar ddyletswydd a’ch cysylltu os ydynt ar gael, neu gymryd neges. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Gorsafoedd Heddlu
Beth Allwch Chi’i Wneud
Mynd i gyfarfodydd plismona bro, riportio troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a Gwarchod Cymdogaeth, ac ymweld â’ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am gynlluniau diogelwch cymunedol yn eich ardal chi.
Cyfarfodydd Bro
Dewch i drafod materion cymunedol gyda'ch Tîm Plismona Bro, a manteisio ar y cyfle i ddylanwadu ar eu blaenoriaethau plismona.
Nid ydym bellach yn cynnal cyfarfodydd PACT. Os oes gennych unrhyw broblemau neu bryderon yn Aberhonddu Wledig gallwch ddod i’ch cymhorthfa leol (gweler y dyddiadau isod), siarad â Chynghorydd Cymunedol, neu gysylltu â ni ar 101 neu drwy e-bost BreconRuralNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk
Cymorthfeydd
Siaradwch â’ch heddlu lleol yn gyfrinachol.
- Talybont-on-Usk: Maes parcio Neuadd Henderson rhwng 6 a 7pm ar 15/09/10
- Llangors: Canolfan Gymunedol rhwng 6 a 7pm ar 08/09/10
- Felinfach: 22/09/10
- Yscir: 29/09/10
Cysylltiadau Defnyddiol
Mapiau Trosedd
I weld yr ystadegau troseddu ar gyfer eich ardal leol, ewch i wefan mapio trosedd Dyfed-Powys
Hafan