Tîm Plismona Bro Llanidloes
Blaenoriaethau
Llandinam:
- Problemau parcio’r tu allan i’r ysgol
- Rhieni ddim yn cydymffurfio â chyfreithiau gwregysau diogelwch / seddi hybu y tu allan i’r ysgol
- Problemau ar y groesfan i gerddwyr a goryrru ar yr A470
Caersws:
- Problemau gyda phlant hŷn ar dir yr ysgol yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Goryrru ar y Stryd Fawr
- Baw cŵn ar y pafinau ger yr ysgol
Llanidloes:
- Problemau gyda sbwriel a gwydr wedi torri y tu allan i dafarn y King’s Head, Llanidloes ar ôl digwyddiadau cerddoriaeth
- Dim digon o heddlu ar batrôl troed a dim Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu
Beth Rydym Ni Wedi’i Wneud
Llandinam:
- Baw Cŵn
Gosodwyd posteri mewn tair ardal allweddol a rhoddwyd gwybod i Iechyd Amgylcheddol a’r warden cŵn bod angen mynd i’r ardaloedd hynny. Roedd y rhai’n bresennol yn cytuno bod y mesur hwn yn effeithiol gan fod y broblem wedi gostwng yn sylweddol.
- Goryrru ar hyd yr A470
Mae swyddogion wedi cynnal gwiriadau cyflymder yn y pentref. Roedd y rhai’n bresennol yn cydnabod hyn gan i’r swyddogion gael eu gweld. Mae hyn yn parhau i fod yn broblem i breswylwyr ac y mae’n parhau fel blaenoriaeth.
- Croesfan i Gerddwyr
Siaradwyd â’r Asiantaeth Cefnffyrdd ac maent wedi cadarnhau bod Llandinam yn un o’r pum prif ardal i’w hystyried o ran gostwng y terfyn cyflymder a gosod croesfan i gerddwyr.
Caersws:
- Goryrru
Buwyd yn mesur cyflymder yn ‘Main Street’ ac ar yr A470 i mewn i Gaersws o gyfeiriad y Drenewydd. Bu’r Uned Plismona’r Ffyrdd yn mesur cyflymder ar hap yn y pentref a rhoddwyd tocynnau cosb benodol i yrwyr ar bob achlysur. Hyd yn hyn, cyhoeddwyd 8 hysbysiad cosb benodol am oryrru a rhybuddiwyd nifer o yrwyr hefyd. - Gyrru gwrthgymdeithasol yn Lôn y Ffos
Rydym wedi bod yn patrolio’r ardal am rai wythnosau yn awr yn sgil cwynion diweddar gan bobl y tu allan i’r cyfarfod PACT. Stopiwyd cerbydau a rhoddwyd rhybuddion, neu hysbysiadau cosb benodol os oedd troseddau wedi'u cyflawni. Bydd y patrolau’n parhau a rhoddir diweddariad llawn yn y cyfarfod nesaf. - Croesfan i Gerddwyr
Disgwyl ateb oddi wrth Asiantaeth y Priffyrdd
Llanidloes:
- Goryrru yn Rhodfa Victoria
Rhoddir sylw pellach i’r broblem hon yn sgil cwynion am yrru gwrthgymdeithasol. Rhoddwyd rhybuddion Adran 59 i dri gyrrwr yn y dref a hysbysiadau cosb benodol a rhybuddion i eraill. Bydd y camau gweithredu cadarnhaol hyn gan yr heddlu yn parhau, fodd bynnag, ymddengys yn ystod yr wythnosau diwethaf, bod y broblem wedi tawelu. Anogir trigolion lleol i barhau i riportio materion felly. - Bryn Du
Anfonwyd llythyron i drigolion yn yr ardal yn tynnu sylw at y gyfraith mewn perthynas â pharcio ar dop rhiw ac o fewn 10 metr o gyffordd. Gofynnwyd i drigolion ystyried wrth iddynt barcio eu cerbydau a fyddai gyrwyr eraill yn gallu gweld yn glir. Siaradwyd â rhai trigolion i esbonio’r rheswm y tu ôl i’r llythyron. Ni dderbyniwyd rhagor o gwynion. - Llinellau gwynion ar Groesfan Cerddwyr
Siaradwyd gydag adran priffyrdd Cyngor Sir Powys ac mae’r llinellau gwynion ar y groesfan wedi cael eu hail baentio sy’n golygu eu bod llawer cliriach i yrwyr yn awr.
Pwy 'di Pwy
Arolygydd Paul Ridley
Rhif Coler: 328
Trosglwyddodd yr Arolygydd Paul Ridley i Heddlu Dyfed Powys yn 2003, ar ôl gweithio i Heddlu Sussex am ddeuddeng mlynedd. Bu’n gweithio yng ngorsafoedd Y Drenewydd a Llanidloes, cyn cychwyn yn ei swydd gyfredol fel Arolygydd Bro dros Adran y Drenewydd ym mis Hydref 2007. Meddai, ”Dros y tair blynedd diwethaf, mae aelodau Tîm Plismona Bro’r Drenewydd wedi gwneud ymdrech fawr i ddod yn rhan o’u cymunedau priodol. O ganlyniad i’r broses barhaol hon a nifer o fentrau sydd ar y gweill nawr ac wedi’u trefnu ar gyfer y dyfodol, rwy’n teimlo’n ffyddiog y bydd hyder, ffydd a bodlonrwydd y cyhoedd â’u gwasanaeth plismona lleol yn cynyddu.”
Sarjant Jonathan Rees
Rhif Coler: 983
Fel Goruchwylydd y Tîm Plismona Bro, mae Sarjant Jonathan Rees yn gyfrifol am weithredu a chyflwyno ‘Plismona Cymunedol’ ledled Sir Drefaldwyn. Gan dynnu ar y profaid a enillodd dros gyfnod o dair blynedd ar ddeg yn gweithio yn CID, y Tîm Cyffuriau, y Tîm Targedu Troseddau Ceir, Cudd-wybodaeth a Chudd-wylio, mae Jonathan yn awyddus i sicrhau atebion i’r amryw o broblemau cymunedol y mae’n dod ar eu traws.
PC Suzanne Duncombe
Rhif Coler: 1175
Trosglwyddodd PC Suzanne Duncombe i Heddlu Dyfed-Powys yn 2006 ar ôl gweithio am chwe blynedd gyda Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr. Y mae wedi treulio pedair blynedd fel Swyddog Plismona’r Ffyrdd a hefyd wedi treulio peth amser o fewn CID. Mae Suzanne wedi’i lleoli yng Ngorsaf Llanidloes ers Ebrill 2009 ac y mae yn ddiweddar wedi cymryd rôl Rheolwraig Bît ar gyfer Llanidloes a’r ardaloedd amgylchynol. Mae Suzanne yn byw’n lleol ac yn awyddus i weithio’n agos gyda’r gymuned i gynyddu hyder a bodlonrwydd y cyhoedd. Meddai, “Rwy’n edrych ymlaen at her rôl newydd o fewn Plismona Bro. Rwy’n credu’n gryf y bydd fy neng mlynedd o brofiad mewn ardaloedd dinesig a gwledig yn fy nghynorthwyo i ddarparu gwasanaeth plismona cymunedol yn effeithiol, ac y bydd yn werthfawr wrth geisio datrys yr amrywiol broblemau sy’n codi.”
Cysylltu â'r Tîm
E-bost
LlanidloesNPT@dyfed-powys.pnn.police.uk
Mae’r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer materion Plismona Bro yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall defnyddiwch ContactCentre@dyfed-powys.pnn.police.uk
Ffôn 101
Os ydych yn gwybod pwy rydych am siarad â nhw, gofynnwch amdanynt wrth eu henw a’u gorsaf. Bydd staff yn gallu cadarnhau os ydynt ar ddyletswydd a’ch cysylltu os ydynt ar gael, neu gymryd neges. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Gorsafoedd Heddlu
Beth Allwch Chi’i Wneud
Mynd i gyfarfodydd plismona bro, riportio troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a Gwarchod Cymdogaeth, ac ymweld â’ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am gynlluniau diogelwch cymunedol yn eich ardal chi.
Cysylltiadau Defnyddiol
Mapiau Trosedd
I weld yr ystadegau troseddu ar gyfer eich ardal leol, ewch i wefan mapio trosedd Dyfed-Powys
Hafan