Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cynllun Fan Bobi

Bobby Van SchemeCafodd Cynllun Fan Bobby ei lansio yn ardal Dyfed Powys ar 30ain Ebrill 1999. Ers hynny, gwnaed dros 8000 o gartrefi yn fwy diogel, a hynny yn rhad ac am ddim.

Mae’r cynllun wedi gwneud cyfraniad pwysig i’r frwydr i atal troseddau yn erbyn eiddo gan helpu i dawelu meddyliau'r henoed ac aelodau bregus eraill o’n cymuned gan gynnwys pobl o bob oed sydd wedi dioddef mwy nag un fyrgleriaeth, dioddefwyr trais yn y cartref ac aelodau o grwpiau lleiafrifol a grwpiau sydd dan anfantais.

Bobby Van Scheme visits a clients homeDros y saith mlynedd diwethaf, mae’r cynllun wedi cyflogi gweinyddydd a dau saer coed. Fodd bynnag, oherwydd y gwasanaeth ardderchog a ddarperir gan y cynllun, rydym wedi llwyddo i sicrhau cefnogaeth ariannol bellach o Gronfa’r Loteri Fawr sy’n golygu bod modd ehangu’r cynllun a chyflogi seiri coed ychwanegol.

Brian Jones yw’r Cydlynydd sy’n gyfrifol am yr atgyfeiriadau yn Sir Gaerfyrddin. Mae Brian yn gweithio yng Ngorsaf Heddlu Llanelli a gellir cysylltu ag ef drwy anfon e-bost at brian.jones@dyfed-powys.pnn.police.uk neu ffonio101.