Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-drin Plant yn Rhywiol
Beth
yw’r Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-drin Plant yn Rhywiol?
Mae plant yn fwy tebygol o gael eu cam-drin gan aelod o’r teulu neu ffrind i’r
teulu nag unigolyn hollol ddieithr.
Mae tua 75 y cant o’r bobl sy’n cam-drin plant yn rhywiol naill ai’n
perthyn neu’n adnabyddus i’r dioddefydd.
Datblygwyd y Cynllun
Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-drin Plant yn Rhywiol er mwyn mynd i’r afael â hyn.
Mae’r cynllun yn galluogi
aelodau’r cyhoedd - rhieni, gofalwyr, gwarcheidwaid neu drydydd parti sydd â
diddordeb – i wneud cais i’r heddlu am wybodaeth os ydynt yn pryderu am
unigolyn sydd â mynediad at blentyn.
Mae’r heddlu eisoes yn datgelu
gwybodaeth ynghylch troseddwyr rhyw cofrestredig a throseddwyr treisgar mewn
modd rheoledig i amryw o bobl gan gynnwys prif athrawon, rheolwyr canolfannau
hamdden, cyflogwyr, landlordiaid a rhieni. Mae’r cynllun datgelu yn arf
ychwanegol y gall yr heddlu ei ddefnyddio i ddiogelu plant.
Pryd
fydd gwybodaeth yn cael ei datgelu?
Ni ddatgelir gwybodaeth oni fydd yr heddlu’n credu bod hynny’n angenrheidiol ac
yn gymesur a diogelu’r plentyn. Rhennir y wybodaeth gyda’r sawl sydd yn
y sefyllfa orau i ddiogelu’r plentyn yn unig, a rhaid i unrhyw un sy’n derbyn
gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol a’i defnyddio i ddiogelu’r plentyn dan sylw
yn unig.
Nid fersiwn y Deyrnas Unedig o
‘Gyfraith Megan’ yw’r Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-drin Plant. Dan y cynllun hwnnw, sy’n gweithredu yn
yr Unol Daleithiau cyhoeddir pob gwybodaeth am droseddwyr rhyw. Yma yn y DU, gall yr heddlu gymryd
camau yn erbyn unrhyw un sy’n torri cyfrinachedd o fewn cynllun.
Sut
all aelod o’r cyhoedd wneud cais am wybodaeth?
Gallwch gyflwyno cais am
wybodaeth i’r heddlu mewn llythyr, dros y ffôn neu drwy alw mewn gorsaf yr
heddlu neu siarad â heddwas. Bydd
eich cais yn cael ei rheoli gan Uned Diogelu’r Cyhoedd yr heddlu a fydd yn
cysylltu â chi cyn gynted ag y caiff eich cais ei gofnodi ar gronfa ddata’r
heddlu.
Rhif
Di-frys: 101
- Pencadlys Heddlu Dyfed Powys,
Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF - Pencadlys Heddlu Gwent, Croesyceiliog, Cwmbran, NP44 2XJ
- Pencadlys Heddlu De Cymru, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU
- Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Glan-y-Don, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29
8AW
Byddwn angen eich
manylion chi, y plentyn rydych yn credu sydd mewn perygl a’r sawl rydych yn
pryderu amdanynt. Os ydych yn credu bod y plentyn mewn perygl dybryd, ffoniwch
999. Byddwn yn delio â’ch
pryderon yn unol â’r trefniadau diogelu plant sydd eisoes yn bodoli.



