Paratoi ar gyfer Digwyddiadau Mawrion
Cynllunio ar gyfer Argyfyngau Sifil
Fel rhan o waith Fforwm Gwydnwch Lleol Dyfed Powys rydym wedi cynnal asesiad risg i ystyried tebygolrwydd ac effaith y math o ddigwyddiad mawr a allai daro ardal Dyfed Powys.
Mathau o Ddigwyddiadau
Mae’r digwyddiadau hyn yn syrthio i ddau gategori - “perygl”, sef digwyddiad difalais, a “bygythiad”, sef digwyddiad a gynlluniwyd megis ymosodiad terfysgol.
Enghreifftiau o Beryglon
- Damweiniau Cludiant
- Tywydd Garw
- Llifogydd
- Damweiniau Diwydiannol a Llygredd Amgylcheddol
- Perygl i iechyd dynol
- Perygl i iechyd anifeiliaid
- Methiant Technegol Diwydiannol
Enghreifftiau o Fygythiadau
- Ymosodiadau yn defnyddio ffrwydron
- Bygythiadau cemegol, biolegol, radiolegol neu niwclear
- Ymosodiadau electronig sy’n effeithio gwasanaethau a chysylltiadau
Y Broses Asesu Risg
Rydym yn ystyried y peth gwaethaf a allai ddigwydd.Efallai na ddigwydd y pethau hyn o gwbl, neu os gwnânt, byddant ar raddfa lai, ond mae’n rhaid ystyried yr holl bosibiliadau wrth gynnal ein hasesiad.
Mae asesu risg yn ofyniad statudol dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004. Mae’n broses barhaol sy’n cael ei hadolygu’n gyson. Bydd diweddariadau pellach yn ymddangos ar y wefan fel y bo’n ymarferol a phriodol.
Cofrestr Risg
Mae’r gofrestr yn cynnwys crynodeb o’r math o risgiau rydym yn eu hasesu yn ardal Dyfed Powys ar hyn o bryd. Am resymau diogelwch, ni fedrwn roi gwybodaeth fanwl.


