Adran Cŵn
Dod o Hyd i Gi Addas
Gall ci newydd ei recriwtio fod yn rhodd neu wedi’i brynu oddi wrth fridiwr arbenigol. Does dim gwahaniaeth o ble y daw’r ci, yr un yw’r canlyniad - fe’i hyfforddir yn yr holl dasgau y mae eu hangen er mwyn bod yn gi gweithredol gyda’r heddlu.
Cŵn sy’n Rhoddion
Fe roddir y rhain gan aelodau’r cyhoedd neu’u prynu ar gost nominal. Os oes gennych gŵn addas yr hoffech eu rhoi gwelwch sut y gallwch ein helpu os gwelwch yn dda.
Mae recriwtiaid newydd yn amrywio mewn oedran o ddeuddeg mis hyd at dair blwydd oed. Yn ddelfrydol, dylent fod rhwng deg mis a dwy flwydd oed. Fe roddir iddynt lety yn rhad ac am ddim a digon o fwyd da.
Dylai’r cŵn fod yn hy ac yn hyderus ond nid yn orymosodol, yn meddu ar natur ddeallus sy’n chwilfrydig ac yn barod i chwarae â thegan. Asesir recriwtiaid newydd yn ofalus drwy gyfres o brofion er mwyn gweld a oes gan y cŵn y greddfau a’r cymeriad angenrheidiol. Os yw’r cŵn yn llwyddiannus, byddant yn cael eu paru â thrafodwyr a’u rhoi ar y cwrs cyffredinol dechreuol.
Cŵn o linach sydd wedi’i hen sefydlu
Gellir prynu cŵn bach o linach sydd wedi’i hen sefydlu o stoc weithiol. Rhoddir y cŵn bach hyn gyda thrafodwr profiadol a’u datblygu drwy raglen cŵn bach, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu codi mewn awyrgylch deuluol ac yn cael eu meithrin drwy ddatblygiad naturiol.
Fe asesir y ci yn barhaus, ac os fydd popeth yn iawn, bydd yn cychwyn y cwrs cyffredinol trafod cŵn pan fydd rhwng pedwar mis ar ddeg a deunaw mis ar ddeg - gyda’r trafodwr a’i magodd.
Hyfforddiant
Drwy’r cyfnod hyfforddi, mae galluoedd naturiol y ci yn cael eu canfod, eu hybu a’u gwella. Mae’r hyfforddiant yn hybu’r anifail i ddefnyddio’i reddfau mewn sefyllfa reoledig ac ar orchymyn. Mae galluoedd naturiol y ci yn sail i nifer o’r ymarferion a wneir wrth hyfforddi cŵn yr heddlu, gan gynnwys ei reddf i ystyried y trafodwr fel arweinydd haid o gŵn.
Ymhlith y sgiliau a ddysgir i’r ci mae chwilio am droseddwyr, dod o hyd i eitemau, darganfod pobl sydd ar goll, bod yn bresennol pan fydd anhrefn cyhoeddus ar raddfa fawr a digwyddiadau cysylltiadau cyhoeddus megis ymweliadau ag ysgolion.
Fe wobrwyir y ci ac fe’u canmolir am ei waith caled. Rhoddir iddo fwyd da, gofal, ymarfer ac fe’i gwarchodir. Wedi cwblhau’r cwrs dechreuol, asesir y ci a’i drafodwr. Os ydynt wedi cyrraedd y safon angenrheidiol, byddant yn cael trwydded i weithredu fel tîm.
Bydd yr hyfforddiant yn parhau i fod yn elfen allweddol o’r tîm, â’r pwyslais ar reolaeth, diogelwch ac effeithlonrwydd. Bydd y drwydded yn cael ei hadnewyddu bob blwyddyn drwy gydol bywyd gwaith y ci er mwyn cynnal safonau.
Cartrefu’r Cŵn
Cedwir holl gŵn yr heddlu gartref gyda’r trafodwyr er mwyn sicrhau eu bod yn parhau mewn perthynas â’i gilydd. Bydd y cŵn yn treulio’u gwyliau gyda’u trafodwyr, naill ai gartref gyda’u trafodwyr neu yng nghenelau’r heddlu.
Yn ystod dyletswyddau gweithredol fe gedwir y ci yn fan yr heddlu sydd wedi’i addasu’n arbennig ar gyfer diogelwch a chysur y ci. Mae’r ci yn cael dŵr yn rheolaidd ac yn cael ymarfer cyson gan ei drafodwr. Mae gennym gynllun ymwelwyr lleyg mewn lle i fonitro lles y ci.
Ymddeoliad
Bydd cŵn a ddefnyddir yn gyffredinol yn ymddeol pan fyddant tua saith neu wyth mlwydd oed. Bydd cŵn arbenigol yn ymddeol pan fyddant tua deg mlwydd oed.
Caniateir i’r trafodwr i gadw’u cŵn. Mae nifer yn dewis gwneud hyn, ond os nad yw hynny’n bosibl bydd y cŵn yn cael cartrefi gyda pherchnogion addas am weddill eu bywydau.
Os oes diddordeb gan unrhyw un i roi cartref i un o gŵn yr heddlu, gwelwch sut y gallwch ein helpu os gwelwch yn dda.


