Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Y Bridiau Cŵn y Byddwn Ni’n Eu Defnyddio

Cŵn Amlbwrpas

Mae cŵn amlbwrpas yr heddlu yn gweithio gydag arogl pobl. Gellir eu defnyddio i chwilio am eiddo a phobl, a gallant chwarae rhan wrth gefnogi gwaith yr adran Arfau Saethu drwy wisgo camera ar eu pennau i helpu swyddogion Arfau Saethu i fynd mewn i adeiladau. 

Ci Defaid yr Almaen (German Shepherd)

Mae cŵn defaid yr Almaen yn dra chymdeithasol ac amryddawn, a gallant weithio fel cŵn patrôl a chŵn trywydd. Mae’r brîd yn dal i fod y ci gorau a ddefnyddir yn yr Heddlu a’r Lluoedd Arfog, ac oherwydd eu bod mor amryddawn maent wedi cael eu defnyddio i chwilio am bobl sydd wedi’u claddu mewn eirlithriadau a daeargrynfeydd.

Mallinois Dog

Ci Defaid Belgaidd (Malinois)

Ers sawl blwyddyn bellach mae adrannau cŵn wedi cael anawsterau wrth geisio dod o hyd i gŵn defaid yr Almaen o safon dda. O ganlyniad i hyn, rydym wedi troi at fridiau eraill, gan gynnwys y Malinois. Gall y Malinois wneud yr un gwaith â chi defaid yr Almaen, ond mae ganddo rai manteision arbennig. Mae corff y Malinois yn llawer gwell, mae’n ysgafnach na’r rhan fwyaf o gŵn defaid yr Almaen, ac mae’n gallu gweithio am fwy o flynyddoedd na chŵn defaid yr Almaen.

Doberman

Mae cŵn Doberman yn dra chymdeithasol ac amryddawn. Gall y Doberman weithio fel ci patrôl a chi trywydd. Gan eu bod yn gŵn nerfus, nid ydynt yn cael eu defnyddio cymaint â chŵn defaid yr Almaen.

Cŵn Chwilio Arbenigol

Defnyddir y cŵn hyn ar gyfer y gwaith arbenigol o chwilio am gyffuriau, ffrwydron, arian ac arfau tân

English Springer Spaniel

English Springer Spaniel

Mae’r English Springer Spaniel yn frîd o faint canolig sy’n gyfeillgar, yn fywiog ac yn rhadlon. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ddeallus, yn fedrus, yn fodlon ac yn ufudd. Mae’r ffaith fod y Springer yn ddeallus ac yn ystwyth, yn ogystal â bod yn  brydferth, yn deyrngar ac yn ddibynadwy, yn golygu bod galw mawr am y brîd hwn. Mae’r English Springer yn gi amryddawn sy’n hawdd i’w hyfforddi.

Ci Labrador

Defnyddir y geiriau ‘cyfeillgar’, ‘rhadlon’, ‘deallus’ ac ‘addfwyn’ i ddisgrifio’r ci hwn, sy’n un o’r anifeiliaid anwes mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae llawer o gŵn Labrador yn cael eu defnyddio fel cŵn gwasanaeth a chŵn therapi. Mae eraill yn dda ar gyfer gwaith chwilio ac achub, yn ogystal â bod yn gŵn gwych ar gyfer darganfod bomiau, cyffuriau ac achosion o losgi bwriadol. Mae’u trwyn, eu cymeriad, a’r ffaith eu bod yn hawdd i’w hyfforddi, yn eu gwneud yn arbennig o addas ar gyfer y mathau hyn o weithgareddau.

Ci Adar Melyn (Golden Retriever)

Mae’r Ci Adar Melyn yn un o’r bridiau cŵn mwyaf poblogaidd. Mae’i flew yn lliw aur ac yn gyrliog, ac mae ganddo ên lydan a ffrâm gytbwys. Mae’n gi hela wrth reddf, a gwnaiff bron unrhyw beth i blesio’i feistr. Mae’i ddeallusrwydd a’i amynedd yn ei wneud yn un o’r cŵn mwyaf poblogaidd ar gyfer tywys pobl ddall. Mae’r Ci Adar Melyn yn hawdd i’w hyfforddi, ond nid yw’n gi sy’n arbennig o warchodol.

Ci Defaid y Goror ( Border Collie)

Mae gan y ci defaid reddf i hel defaid i’r bugail, nodwedd sy’n ei wneud yn fwyaf defnyddiol ar y bryniau. Oherwydd eu bod yn gweithio, gan amlaf, yn bell oddi wrth y bugail, rhaid i’r ci defaid fod yn ddeallus ac yn annibynnol. Maent yn gŵn amryddawn wrth reddf, a gallant ragori mewn meysydd heblaw am yrru anifeiliaid a threialon cŵn defaid. Cyn belled â bod ganddynt ddigon o waith, maent yn gweddu’n dda i fywyd yn y maestrefi.