Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Sut y Gallwch Ein Helpu?

Ymwelwyr Lleyg

Mae ymwelwyr lleyg yn gwirio amodau byw a chyflwr yr anifeiliaid, a’r berthynas sydd rhwng y swyddog a’r ci. Maent yn trefnu’r ymweliadau gyda’r swyddogion, neu gallant weld y cŵn heb unrhyw rybudd ymlaen llaw.

Dechreuwyd y cynllun ymwelwyr lleyg yn 2001 drwy gydweithrediad Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys, Uned Gŵn Heddlu Dyfed-Powys, yr RSPCA, y Canine Defence League a chynrychiolwyr o’r pedwar Cyngor Sir.

Asesir y cŵn yn ôl pum prif faen prawf:

  1. Rhyddid rhag newyn a syched
  2. Rhyddid rhag anghysur
  3. Rhyddid i ymddwyn yn normal
  4. Rhyddid rhag poen ac afiechyd
  5. Rhyddid rhag ofn a pheryglon.

Maent yn cyflwyno adroddiad i’r Prif Arolygydd Gweithrediadau, a rhoddir ystyriaeth ddifrifol i unrhyw argymhellion, a weithredir os ydynt yn briodol. 

Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr lleyg yn wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser er mwyn yr anifeiliaid. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth, neu darllenwch y wybodaeth ar gyfer ymwelwyr lleyg a ddarperir gan Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys.

Rhowch gynnig ar ofalu am gi bach

Mae gofalu am gi bach yn rhan hanfodol o ddatblygiad cŵn heddlu’r dyfodol. Rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn chwilio am bobl i fod yn ofalwyr gwirfoddol cŵn bach.

Rhowch Gi

Cysylltwch â ni os ydych chi’n berchen ar gi a allai, yn eich tyb chi, fod yn addas ar gyfer gwaith yr heddlu.

Yn ddelfrydol, dylai cŵn a roddir fod rhwng deg mis a dyflwydd oed; yn eofn ac yn hyderus, ond heb fod yn rhy ymosodol; yn meddu ar natur fywiog a chwilfrydig, a bod yn barod i chwarae â thegan.

Rhowch Gartref Newydd i Gi

Weithiau, nid yw’n bosibl i swyddog gadw’i gi ar ôl i’r anifail ymddeol. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cartref newydd i gi, gallwch adael eich manylion cyswllt gyda ni. Cedwir eich manylion ar ein Cofrestr Ailgartrefu, ac mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen cartref newydd ar gi.