Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Er Cof am Bryn, a Laddwyd Tra ar Ddyletswydd ym Medi 2006

Bryn sitting in the grassGanwyd Bryn ar 15 Gorffennaf 1998, a roddwyd iddo’r enw ‘Stan’s Lad’ yn y cenel. Pan oedd yn ddeg wythnos oed fe adawyd ef gan y bridiwr mewn practis milfeddygol ym Mhorth Tywyn. Gwnaeth nyrs yn y practis syrthio mewn cariad â’r ci bach, ac aeth ag ef i’w chartref. Cafodd yr enw newydd, ‘Cromwell’, ac aethpwyd â’r ci i ddosbarthiadau ufudd-dod, ond cafodd ei ddiarddel ar ôl i’r hyfforddwr ei glymu wrth reiddiadur er mwyn dysgu gwers iddo, ond iddo’i dynnu oddi wrth y wal, gan beri i ddŵr fynd i bobman.

Doedd y nyrs ddim yn gwybod beth i’w wneud nesaf. Roedd hi’n dal i’w garu, er iddo ddistrywio ei gardd hyfryd, ac ni allai fynd ag ef am dro mwyach oherwydd y tro diwethaf iddi geisio gwneud hynny roedd wedi’i llusgo am ugain llath i lawr yr heol. 

Gwelodd hysbyseb am gŵn heddlu yn Ne Cymru. Gofynnon nhw i Heddlu Dyfed-Powys fwrw golwg dros y ci ar eu rhan. Roedd y Cwnstabl Andy Edwards heb gi, a phan aeth i weld Cromwell fe aeth ag ef yn y fan a’r lle, rhag i rywun arall ddod i’w weld.

Bryn – y Recriwt Newydd

Bryn smiles for the cameraAm fod yr enw ‘Cromwell’ yn rhy hir, rhoddwyd yr enw ‘Bryn’ ar y recriwt newydd, ar ôl Bryn Phillips, un o swyddogion cŵn cyntaf Dyfed Powys.  Hyfforddwyd Bryn am y cyfnod arferol o ddeg wythnos. Daeth hi’n amlwg nad ci cyffredin mo Bryn - roedd ei safon yn eithriadol o uchel. Llwyddodd ym mhrofion achredu’r Swyddfa Gartref, a chafodd drwydded. Bu Bryn yn weithredol, yn gwarchod ei swyddog, am oddeutu chwe blynedd. Fe’i hyfforddwyd hefyd fel ci cefnogi swyddogion arfau saethu, gan gario camera ar ei ben, ac fel ci gorchymyn a rheoli i’r tîm arfau saethu.

Llwyddiannau Bryn

Tasg amhosibl fyddai manylu ar ei holl waith da dros y blynyddoedd, ond gwnaeth helpu dal dros 100 o garcharorion. Ymhlith ei lwyddiannau y mae’r canlynol:

  • Roedd Bryn yn cael hoe yn cerdded yn hamddenol yn y caeau o gwmpas y Pencadlys. Clywyd seirenau yn y dref, a chododd yr hofrennydd, gan hofran uwchben Llangynnwr. Aeth y Cwnstabl Edwards nôl i’r fan i ofyn ar y radio a allai gynorthwyo. Roedd swyddogion wedi arestio aelod o gang a oedd wedi torri mewn i dŷ yn yr ardal. Ni allai neb ddod o hyd i’r tri arall, a oedd wedi ffoi i’r caeau. Cododd Bryn y trywydd, ac fe’i dilynodd ar draws y cae, i mewn i’r clawdd, i fyny nant fechan, ac i mewn i ardd gefn tŷ. Gwelwyd symudiadau yn y coed pîn. Pan waeddwyd arnynt, gwnaethon nhw ffoi. Cafodd Bryn ei ryddhau, gyda’r Cwnstabl Edwards yn ei ddilyn. Daliodd Bryn yr un cyflymaf, a daethpwyd o hyd i’r ddau arall yn crynu yn y coed. Daethpwyd o hyd i’r holl eiddo a oedd wedi’i ddwyn.
  • Gwnaeth swyddogion yn Llanelli ddod ar draws dau fachgen yn Ystâd Ddiwydiannol Trostre, a lwyddodd i ddianc. Cyrhaeddodd Bryn ychydig yn ddiweddarach. Fu e ddim fawr o amser cyn codi’r trywydd, a oedd yn mynd y tu ôl i iard llawn cerbydau sgrap. Gwaeddodd y Cwnstabl Edwards rybudd, a chlywyd sgrechiadau am help. Roedd Bryn wedi dod o hyd i un o’r ddau o dan lori sgrap. Wedi i’r carcharor gael ei drosglwyddo, aeth Bryn nôl ar y trywydd i chwilio am y llall. Aeth â’r Cwnstabl Edwards drwy dwll yn y ffens, ar hyd iard arall ac i mewn i iard cyflenwyr tato, lle y daeth o hyd i’r dihiryn coll yn cuddio mewn pentwr o baledi.
  • Anfonwyd Bryn i fferm ger ‘Tipi Valley’. Roedd menyw wedi dioddef ymosodiad difrifol gan ei gŵr, a oedd wedi ffoi ar draws y caeau erbyn i’r heddlu gyrraedd. Ofnwyd y byddai’n aros yn y caeau a dod nôl i ymosod eto ar ei wraig. Roedd y drws cefn yn agor yn syth ar lond cae o ddefaid. Aeth Bryn yn syth trwy’r defaid heb feddwl ddwywaith. Neidiodd dros ffens weiar, yn syth ar draws y cae a dros y ffens nesaf, i mewn i ardal fach o goed. Daeth Bryn o hyd i’r ffermwr.

Cymeradwyaeth

Mae’n amhosibl gwneud cyfiawnder â Bryn, a sôn am ei holl waith da. Yn ystod ei wasanaeth teyrngar cafodd sawl llythyr o werthfawrogiad gan y prif swyddogion.

Mae’r Prif Gwnstabl wedi cymeradwyo Bryn ddwywaith, yn gyntaf ym mis Hydref 2002, pan wnaeth Bryn ddilyn trywydd dyn a oedd wedi’i anafu’n ddifrifol wrth ymladd mewn tafarn yn yr Hendy. Dilynodd y trywydd ar hyd ffordd, ar draws cae corslyd, trwy fieri ac ar hyd rheilffordd. Daeth Bryn o hyd iddo’n gorwedd yn anymwybodol ar ochr y trac. Oni bai bod Bryn wedi dod o hyd iddo, byddai wedi colli’i fywyd.

Cafodd ei gymeradwyo am yr ail waith am ei weithred olaf, pan wnaeth Bryn achub bywydau’i gydweithwyr, ond iddo golli’i fywyd ei hun mewn ffordd mor drasig.

Bu Bryn yn anifail gwir eithriadol, a bydd pawb a gafodd y pleser o’i adnabod, a gweithio gydag ef, yn gweld ei eisiau’n fawr iawn.