Hoffech chi fod yn Ofalwr Cŵn Bach Gwirfoddol?
Mae’r gwaith o ofalu am gŵn bach yn elfen hanfodol yn natblygiad cŵn yr heddlu i’r dyfodol.
Mae gofalwyr cŵn bach gwirfoddol yn cymryd cŵn bach i’w cartrefi am gyfnod rhwng 10 – 14 mis. Darperir y bwyd a thelir biliau’r milfeddyg i gyd gan Heddlu Dyfed-Powys. Mae’r cerddwyr yn rhoi sylfaen sicr ar gyfer hyfforddiant diweddarach. Golyga hyn bod y cŵn bach yn dod yn rhan o gymdeithas a disgwylir iddynt ddod yn gyfarwydd â nifer o sefyllfaoedd er mwyn sicrhau cŵn bach sydd wedi datblygu’n dda ac yn medru dod ymlaen â phobl.
Dyma gysyniad newydd i’r heddlu, ac mae’r rhaglen gychwynnol yn cael ei chynnal yn sir Gaerfyrddin – yn Rhydaman, Llanelli neu Gaerfyrddin yn ddelfrydol, er mwyn galluogi rheolwr y cynllun i gysylltu â gofalwyr y cŵn bach yn gymharol hawdd.

- Oes oedolyn cyfrifol gartref am y rhan fwyaf o’r dydd? Mae’n bwysig ar gyfer datblygiad y ci bach eich bod ar gael bob amser o’r dydd.
- Allech chi ymrwymo i roi 10-14 mis o’ch amser a’ch brwdfrydedd i godi ci bach yn unol â chanllawiau Heddlu Dyfed-Powys?
- Oes gennych ardd â ffens ddiogel?
- Ydych chi yn berchen ar gerbyd addas?
- Ydych chi yn medru cadw ci bach yn eich tŷ (nid mewn cenel y tu allan)?


