Trwyddedu Arfau Saethu
Dylech ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud cais am gael, adnewyddu neu amrywio tystysgrif arf saethu. Mae’n drosedd - ar wahân i eithriadau statudol arbennig - i berson gael yn ei feddiant, brynu neu gael unrhyw arf saethu neu fwledi, y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Ddeddf Arfau Saethu 1968, heb fod ganddo dystysgrif arf saethu.
Bydd y dystysgrif yn dangos yr arfau saethu a’r bwledi y gall y deiliad eu meddiannu, eu prynu neu eu cael. Os ydych chi’n gwneud cais i ddal arf ar wahân i reiffl, pistol blaenlwytho neu ddryll gyda magasîn mawr, dylech ofyn am gyngor adran drwyddedu gynnau eich heddlu lleol.
Sut i wneud cais
Argraffwch y ffurflenni perthnasol o’r dolenni isod, neu mynnwch becyn cais drwy gysylltu â’r Adran Arfau Saethu neu o’ch gorsaf heddlu leol.
- Cais am Gael / Adnewyddu Tystysgrif Dryll
- Cais am Gael / Adnewyddu / Amrywio Tystysgrif Arfau Saethu
- Trwyddedu Ffrwydron
Sut i lenwi’r ffurflen
Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob rhan o’r ffurflen. Os cewch unrhyw anawsterau neu os byddwch yn ansicr ynghylch unrhyw ran o’r wybodaeth, cysylltwch ag aelod o staff yr adran a fydd yn hapus i’ch helpu i lenwi’r ffurflen.
Faint o amser fydd e’n cymryd
Mae’n cymryd rhwng deuddeg a phymtheg wythnos i brosesu ceisiadau am ganiatau neu adnewyddu trwydded.
Beth fydd y gost
Ewch i’n tudalen Ffioedd am union gostau pob math o gais.
Gwnewch eich siec / archeb bost yn daladwy i Heddlu Dyfed-Powys.
Newid eich manylion
Os oes gennych dystysgrif yn barod a bod eich manylion personol yn newid - ysgrifennwch at yr adran i ddiweddaru eich manylion, gan roi eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn newydd. Cedwch eich tystysgrif fel y bod modd i chi brynu bwledi a chetris. Bydd y Swyddog Ymholiadau Arfau Saethu neu’r adran yn gofyn am eich tystysgrif cyfredol pan fydd yr un newydd yn barod.


