Page Content Starts Here
Tystysgrifau Drylliau
Cais am Gael / Adnewyddu Tystysgrif Dryll
Cwblhewch y ffurflen hon os ydych yn gwneud cais am dystysgrif dryll newydd neu’n adnewyddu un sydd gennych eisoes. Er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i gydymffurfio â deddfwriaeth arfau saethu, fe’ch cynghorwn i wneud hyn cyn i’ch tystysgrif gyfredol ddod i ben.
Ddim yn Adnewyddu’ch Tystysgrif Dryll
Os nad ydych chi’n dymuno adnewyddu’ch tystysgrif dryll, mae angen cwblhau’r ffurflen hon a’i dychwelyd atom.
Hefyd, mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod wedi ildio’ch dryll, neu ei throsglwyddo i rywun awdurdodedig cyn y dyddiad dod i ben sydd ar eich tystysgrif. Ar gyfer trosglwyddiadau, sicrhewch eich bod hefyd yn llenwi’r ffurflen isod – “Trosglwyddo Dryll”.
Trosglwyddo Dryll (os ydych wedi prynu neu wedi gwerthu eich dryll)
Mae’n rhaid llenwi’r ffurflen hon a’i hanfon atom o fewn 7 diwrnod ar ôl gwerthu/prynu eich dryll.


