Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Helicopter in Action
Page Content Starts Here

Uned yr Hofrennydd

Helicopter Unit in Action

Y llygad yn yr awyr

Mae gan Heddlu Dyfed-Powys hofrennydd Augusta 109e Power pedwaredd genhedlaeth. Bu hofrennydd gan yr heddlu er 1991.

Gall chwilio un filltir sgwâr o dir gymryd 454 awr i 12 swyddog yr heddlu a chostio dros £4500. Gall hofrennydd gymryd 12 munud i chwilio’r un ardal a chostio dim ond £160.

Beth maen nhw’n ei wneud

Y tîm yw llygaid yr heddlu yn yr awyr. Maen nhw’n helpu gyda:

  • Chwilio am bobl sydd ar goll, pobl a ddrwgdybir o gyflawni trosedd, a cherbydau
  • Cludo pobl wedi eu hanafu
  • Cludo timau arbenigol ar draws ardal yr heddlu
  • Casglu gwybodaeth gan gynnwys defnyddio ANPR a fideo

Y tîm

Mae tîm yr hofrennydd yn cynnwys:

  • Un Arolygydd
  • Un Sarjant
  • 2 beilot amser llawn
  • 2 beilot wrth gefn
  • 5 Cwnstabl yr Heddlu / arsylwyr

Gall yr hofrennydd fod yn yr awyr o fewn 50 eiliad wrth ymateb i alwad brys.

Mewn cyfnod o chwe mis rhwng Gorffennaf 2008 ac Ionawr 2009 maen nhw wedi helpu adfer gwerth £2,225,000 o gyffuriau ac offer ac eiddo gwerth £97,500.