Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Yr Uned Forol

Ynghylch yr Uned

Marine Unit

Hanes

Sefydlwyd Uned Forol yr Heddlu ym 1999, gyda'r bwriad o dargedu terfysgaeth Wyddelig a therfysgaeth ryngwladol a helpu i ddatrys ac atal troseddau difrifol a throseddau ar raddfa fawr ar hyd yr arfordir sy’n rhan o'n hardal ni.

Aelodau a Hyfforddiant

Mae'r uned yn cynnwys Sarjant a chwe Chwnstabl. Rhaid i bob aelod o'r uned gwblhau cwrs RHIB (Bad Pwmpiadwy Anhyblyg) allan ar y môr a chwrs goroesi ar y môr.

Ein cylch patrolio

Mae’r uned wedi'i lleoli ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau, y porthladd mwyaf yng Nghymru a’r trydydd mwyaf yn y DU. Treulir y rhan fwyaf o'n hamser yn monitro ac archwilio llongau sy’n ymweld â’r porthladd pwysig a strategol hwn.

Gall yr uned gyrraedd dyfrffordd Aberdaugleddau ymhen deng munud ar ôl derbyn galwad, ac mae’n gallu mynd hyd at ddeuddeg milltir allan i'r môr.

Ein gwaith ni

Rydym yn cynnig presenoldeb heddlu amlwg ar y dŵr i sicrhau bod yr heddlu yn hygyrch ac ar gael i gefnogi pawb sy’n defnyddio’r dyfrffordd.

Rydym yn rheolaidd yn mynd ar fwrdd llongau bach a mawr, ar y môr neu wrth eu hangor, er mwyn ceisio darganfod a rhwystro gweithgareddau terfysgol posib, darparu cyngor diogelwch ac atal trosedd.  Rydym yn cysylltu â phobl eraill o fewn y diwydiant morol sy'n gweithredu fel ein llygaid a'n clustiau.

Ein badau

Mae gennym ddau RHIBs (Badau Pwmpiadwy â Chragen Anhyblyg), sef Delta sy'n mesur 6 metr (arwydd galw M33), a Humber sy’n mesur 8 metr (arwydd galw M88). 

Beth allwn ni wneud i chi

Ni yw Tîm Plismona Bro yr arfordir.  Rydym yn rhoi cyngor am ddiogelwch ar y môr;yn  darparu gwybodaeth ac arddangosfeydd mewn digwyddiadau morol ac, wrth gwrs, yn ymchwilio i weithgareddau amheus ar y môr.

Os ydych chi'n amau fod rhywbeth o'i le naill ai ar y môr neu ar lan y môr, neu os byddwch yn dyst i drosedd ar y dŵr, cysylltwch â ni.

Gallwch Chi weithredu fel ein Llygaid a'n Clustiau ar y Dŵr

Mae Gwarchod Arfordir Cymru yn fenter a gynlluniwyd i wella diogelwch arfordir Cymru ac i adnabod y llongau a’r unigolion sy’n cyflawni gweithgarwch morol ac arfordirol amheus. Nid ydym yn gofyn i chi batrolio'r môr a herio pobl, ond fel rhywun sydd â gwybodaeth leol, rydych yn fwy tebygol o sylwi ar newidiadau neu weithgareddau amheus.  Mae gwybodaeth leol wedi profi'n werthfawr yn y gorffennol, gan ein harwain at gyflenwadau mawr o gyffuriau a'n helpu i atal troseddau ar y tir mawr.  Cewch wybod mwy wrth fynd at wefan Gwylwyr Arfordir Cymru

Byddwch ar eich gwyliadwriaeth am …

  • Criw sy'n ymddwyn yn amheus
  • Nifer ormodol o griw, neu griw dibrofiad, neu griw nad ydynt wedi gwisgo'n addas
  • Bad wedi angori neu'n dadlwytho eitemau mewn cildraethau anghysbell
  • Nwyddau'n cael eu trosglwyddo o un llong i long arall allan ar y môr
  • Badau bach wrth ochr llongau mawr
  • Badau'n teithio yn y nos heb oleuadau mordwyo  
  • Signalau rhwng llongau ar y môr a'r arfordir
  • Gweithgareddau deifio annisgwyl/anhysbys
  • Bwiau mewn mannau anghyfarwydd neu anarferol

Nid yw hon yn rhestr gyflawn ond mae’n rhoi syniad o’r pethau y gallech chi edrych amdanynt.