Plismona’r Ffyrdd
Yn ddaearyddol, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi’i leoli yng nghalon Cymru. Mae yna ddwy derfynell fferi, ac mae llongau’n hwylio oddi yno’n ddyddiol i Weriniaeth Iwerddon, gan ddarparu cyswllt uniongyrchol ymlaen â thir mawr Ewrop. Rydym yn plismona’r cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer y porth strategol hwn i Iwerddon. Yn ogystal â phlismona rhan helaeth o’r cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd prifwythiennol ar gyfer y rhanbarth, mae ardal Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn cwmpasu’r holl gysylltiadau prifwythiennol Gogledd De yng Nghymru. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhannu ei ffin â thri heddlu arall yng Nghymru, yn ogystal â Gorllewin Mersia lle y mae’r heddlu’n ffinio â Lloegr. Mae yna gytrefi sylweddol o fewn pellter teithio byr o’r cymunedau yr ydym yn eu plismona. Mae’r arfordir yn amgylchynu dau draean o’r ardal heddlu, a gellir cael mynediad at sawl harbwr a phorth bychan drwy’r ffordd, gan gysylltu Môr Iwerddon a thu hwnt â thir mawr Prydain.
Yn Heddlu Dyfed-Powys, rydym yn brofiadol o ran plismona’r ardal hon, ei ffyrdd a’r troseddolrwydd teithiol sy’n gysylltiedig â hyn. Mae’r cyfuniad o ANPR sefydlog a symudol yn amhrisiadwy wrth atal defnydd troseddol o’r ffyrdd. Pa un ai a yw’n cael ei defnyddio’n ymchwiliol, yn rhagweithiol, neu’n ataliol, mae seilwaith ANPR Heddlu Dyfed-Powys yn allweddol wrth blismona’n cymunedau a thu hwnt.
Mae Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i leihau anafiadau ffyrdd. Mae swyddogion a staff yr Uned yn rhoi gwasanaeth sy’n amrywio o ymchwilio i wrthdrawiadau angheuol ar y ffordd, ymgyrchoedd diogelwch y ffyrdd wedi eu targedu sy’n mynd i’r afael ag anghenion lleol a chenedlaethol, a thywys pwysigion a llwythi annormal, i ddarparu gwasanaeth ymateb i’n cymuned. Mae aelodau’r Uned Plismona’r Ffyrdd yn gweithio’n agos â nifer o sefydliadau ac asiantaethau partner yn ogystal â chyfeillion o fewn Heddluoedd eraill er mwyn cyflwyno gwasanaeth effeithiol.
Ar hyn o bryd, mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu fflyd o gerbydau patrol Volvo V70 D5 ynghyd â nifer o feiciau modur Yamaha FJR1300.


