Llwythi Annormal
Canllaw Cryno i Lwythi Annormal
- Gall llwythi annormal sy’n mesur rhwng 2.9 a 3.5 metr o led (heblaw bod eu pwysau gros dros 100 tunnell) deithio ar unrhyw ffordd o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys heb hebryngydd.
- Rhaid i lwythi annormal sy’n mesur rhwng 3.5 a 4.1 metr o led gael hebryngydd personol / preifat ar bob ffordd o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys ac eithrio ffyrdd deuol
- Rhaid i lwythi annormal sy’n mesur rhwng 4.1 a 4.72 metr o led gael hebryngydd personol / preifat ar bob ffordd o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys bob amser
- Rhaid i lwythi annormal, â phwysau gros o 100 tunnell neu fwy, gael hebryngydd personol / preifat ar bob ffordd o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys.
- Any abnormal load measuring more than 4.72 metres in width, or exceeding 150 tonnes or more in weight, or exceeding 30 metres rigid length, will require a police escort at all times on any road within the Dyfed-Powys Police Area. We will require at least 8 days prior notice for these loads in order to arrange the police escorts.
- Rhaid i lwythi annormal sy’n mesur mwy na 4.72 metr o led, neu sy’n pwyso 150 tunnell neu fwy, neu sydd dros 30 metr o hyd anhyblyg, gael eu hebrwng gan yr heddlu bob amser ar unrhyw ffordd o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Rhaid rhoi gwybod o leiaf 8 diwrnod ymlaen llaw i’n galluogi i drefnu hebryngydd ar gyfer y llwythi hyn.
- Ni ddylai llwythi annormal gael eu symud o gwbl ar unrhyw ffordd o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys wedi iddi dywyllu, ac eithrio ar ffyrdd deuol, ac yna rhaid bod ganddynt hebryngydd personol / preifat.
- Dylid hefyd ystyried uchder a chyfyngiadau pwysau pontydd wrth drefnu symud llwythi annormal.
Trefniadau Hebrwng Llwythi Annormal
Os yw llwyth annormal yn 3.5m o led neu fwy, rhaid iddo gael ei hebrwng gan gerbyd personol/preifat, neu os yw’n 4.7m o led neu fwy, rhaid iddo gael ei hebrwng gan yr heddlu.
Mae rhai cwmnïau cludiant yn defnyddio eu cerbydau hebrwng eu hunain tra bod eraill yn cyflogi cwmnïau preifat i wneud y gwaith. Os bydd angen cymorth yr heddlu arnoch i hebrwng llwyth, dylech gysylltu â Swyddog Llwythi Annormal yr Heddlu trwy gyfrwng system o’r enw ESDAL, sef gwasanaeth a ddarperir gan Asiantaeth y Priffyrdd ar gyfer ymgymryd â Gorchmynion Arbennig. Bydd angen rhoi 8 diwrnod o rybudd i gael cymorth yr heddlu i hebrwng llwyth a chodir tâl am amser y swyddog.
Yn achos llwythi lle nad oes eisiau cymorth yr heddlu i’w hebrwng, mae angen i chi anfon ffacs yn cynnwys gorchymyn symud at y Swyddog Llwythi Annormal gan roi 2 ddiwrnod o rybudd. Dylai’r ffacs gynnwys gwybodaeth amdanoch chi, gan gynnwys rhifau ffôn cyswllt, man cychwyn a phen y daith, a’r llwybr y bwriedir ei ddilyn. Bydd yr Heddlu hefyd angen mesuriadau llawn a disgrifiad o’r llwyth. Os yw’r llwyth rhwng 3.5m a 4.7m o led (ac felly yn gallu cael ei hebrwng gan hebryngydd personol/preifat), bydd y Swyddog Llwythi Annormal yn anfon cadarnhad ar ffurf ffacs a fydd yn cynnwys cyfeirnod Heddlu Dyfed-Powys a chyfarwyddyd i ffonio’r Swyddog pan fydd y llwyth annormal ar fin dod i mewn i ardal Heddlu Dyfed-Powys. Bydd y ffacs hefyd yn cynnwys rhif ffôn Ystafell Reoli’r Heddlu, i’w ddefnyddio y tu allan i oriau swyddfa.
Gellir cysylltu â’r Swyddog Llwythi Annormal ar 101 yn y lle cyntaf.













