Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Camerâu Diogelwch

Pwrpas y camerâu diogelwch yw ceisio perswadio gyrwyr, sy'n torri'r cyfyngiadau cyflymder, i arafu. Trwy ostwng cyflymder, byddem yn disgwyl gweld llai o ddamweiniau ar ein ffyrdd a llai o anafiadau difrifol.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi ffurfio partneriaeth camerâu diogelwch rhanbarthol ar y cyd â'r awdurdodau lleol a sefydliadau eraill ledled Cymru er mwyn datblygu strategaeth lleihau cyflymder ar gyfer yr ardal.