Cyswllt Ysgolion
Rhaglen Ysgolion
Llwyddodd rhaglen ysgolion yr heddlu i ddiffinio cyfraniadau’r Heddlu trwy ganolbwyntio ar faterion atal a lleihau troseddu, sef meysydd arbenigedd yr heddlu. Er mwyn cyflwyno rhaglen realistig i ysgolion sy’n cydymffurfio â Fframwaith ACCAC, rhaid oedd strwythuro a diffinio’r gwaith a wneir gan y swyddogion heddlu yn yr ysgolion.
Ein sialens i’r dyfodol yw adeiladu ar y llwyddiant a gafwyd. Ein bwriad yw cwrdd â gofynion newidiol yr ysgolion a’r cymunedau ehangach o ran addysg atal a lleihau troseddu.
Nod ac Amcanion
Gweithio, trwy gyfrwng addysg, i leihau Troseddu ac Anhrefn ymhlith ein cymunedau ifanc.
Gwneir hyn gan yr Heddlu gyda chefnogaeth amryw o asiantaethau eraill. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi strategaeth gadarn i’r ysgolion gan roi cyfle i bob disgybl i ehangu a gwella eu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiad, agweddau, gwerthoedd a’u sgiliau mewn perthynas ag:
- Addysg am Sylweddau,
- Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
- Diogelwch Personol
Mae’n anochel y bydd hyn yn hybu egwyddorion dinasyddiaeth gadarnhaol – yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach.


