Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cefnogaeth i Ddioddefwyr Troseddau

Os ydych yn cysylltu â ni am eich bod wedi dioddef trosedd, rydym yn deall bod hyn yn gallu bod yn brofiad poenus iawn a all effeithio ar bobl mewn amryw o ffyrdd. Byddwn yn cydymffurfio â'r ymrwymiadau penodol yn y Côd Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau.

Byddwn yn eich diweddaru'n rheolaidd am yr ymchwiliad i'ch achos. Byddwn yn dweud wrthych pan fydd y sawl a ddrwgdybir wedi'i arestio, ei gyhuddo a'i fechnïo, yn eich hysbysu am amodau'r fechnïaeth a chanlyniad yr achos. Yn achos llofruddiaeth neu ddynladdiad, byddwn yn penodi swyddog cyswllt teulu i ofalu am deulu'r dioddefydd. Pan fyddwch yn riportio trosedd byddwn yn rhoi eich manylion cysylltu i Gymorth i Ddioddefwyr (oni fyddwch yn gofyn i ni beidio).

Byddwn yn gwneud popeth o fewn rheswm i adnabod dioddefwyr bregus neu ddioddefwyr ofnus ac yn cynnig gwasanaeth ychwanegol iddynt.