Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cefnogaeth i Dystion

Fel tyst, efallai y gofynnir i chi roi tystiolaeth yn y llys os oes gennych wybodaeth am ddigwyddiad, neu i dystio i gymeriad rhywun sydd yn gysylltiedig ag achos. Mae’ch cymorth yn hanfodol i sicrhau cyfiawnder.

Mae gennych yr hawl i gael eich trin yn deg ac i gael eich hysbysu ynghylch yr hyn sy’n digwydd. Mae Siartr y Tystion yn gosod eich hawliau ac yn esbonio sut y dylech gael eich trin gan yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill a chyfreithwyr.