Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Ein Gwaith Ni
  3. Trwyddedu Arfau Saethu

Trwyddedu Arfau Saethu

Sut i wneud cais

Gellir cael pecyn cais am Ganiatau / Adnewyddu Trwydded Drylliau neu Arfau Saethu oddi wrth yr adran Drwyddedu Arfau Saethu neu o Orsafoedd yr Heddlu.  I gael pecyn cais ffoniwch neu ysgrifennwch at yr Adran Drwydded Arfau Saethu gan roi eich enw a’ch cyfeiriad, a byddwn yn anfon ffurflen i chi.  Gweler ein manylion cyswllt  isod yn yr adran “Cysylltu â Ni”.

Sut i lenwi’r ffurflen

Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob rhan o’r ffurflen.  Os cewch unrhyw anawsterau neu os byddwch yn ansicr ynghylch unrhyw ran o’r wybodaeth, cysylltwch ag aelod o staff yr adran a fydd yn hapus i’ch helpu i lenwi’r ffurflen.

Faint o amser fydd e’n cymryd

Mae’n cymryd rhwng deuddeg a phymtheg wythnos i brosesu ceisiadau am ganiatau neu adnewyddu trwydded.

Newid eich manylion

Os oes gennych dystysgrif yn barod a bod eich manylion personol yn newid - ysgrifennwch at yr adran i ddiweddaru eich manylion, gan roi eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn newydd.  Cedwch eich tystysgrif fel y bod modd i chi brynu bwledi a chetris.  Bydd y Swyddog Ymholiadau Arfau Saethu neu’r adran yn gofyn am eich tystysgrif cyfredol pan fydd yr un newydd yn barod.

Cysylltu â Ni

Cyfeiriad:

Trwyddedu Arfau Saethu
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF

Ffôn: 01267 226499
Ffacs: 01267 226488
E-bost: firearmslicensing2@dyfed-powys.pnn.police.uk

Swyddi Gwag yn yr Adran Drwyddedu Arfau Saethu

Bydd unrhyw swyddi gwag yn cael eu hysbysebu yn yr adran Swyddi a Recriwtio ar y wefan.

Trwyddedu Ffrwydron

Gall yr Adran Trwyddedu Arfau Saethu ddarparu gwybodaeth a chanllawiau’n ymwneud â Thrwyddedu Ffrwydron.  Gellir cysylltu â’r adran drwy ffonio 101 neu 01267 222020 os ydych y tu allan i ardal Dyfed-Powys.  Yn ogystal, mae gan bob rhanbarth o fewn yr heddlu Swyddog Cyswllt Ffrwydron penodol, all roi cyngor am drwyddedu ffrwydron. 

Os hoffech gael manylion eich Swyddog Cyswllt Ffrwydron lleol, cysylltwch â’r Adran Drwyddedu Arfau Saethu.

24/08/10 11:46